Ymweliadau â Sefydliadau Tramor

Lluniwyd y cynllun Ymweliadau â Sefydliadau Tramor (OIV) i gefnogi ac annog ymgysylltiad rhyngwladol myfyrwyr ESRC.  Mae’n rhoi cyfle i ddeiliad dyfarniad YGGCC dreulio hyd at dri mis gyda sefydliad Addysg Uwch y tu allan i’r Deyrnas Unedig.    Bwriad y cyllid hwn yw cynnig cyfle i chi sefydlu rhwydweithiau ymchwil, lledaenu canfyddiadau ymchwil cynnar, cymryd rhan mewn seminarau a gweithgareddau academaidd eraill sy’n uniongyrchol berthnasol i’ch ymchwil, neu ymgymryd â hyfforddiant ymchwil arbenigol nad yw ar gael yn y Deyrnas Unedig.

Gellir ceisio cyllid i ddarparu estyniad o hyd at dri mis i’r cyfnod astudio a ariennir, ynghyd â hyd at £4K o gostau teithio a llety. Bydd nifer y dyfarniadau a wneir y flwyddyn yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael. Bydd angen i ddeiliaid dyfarniadau roi cyfiawnhad cryf dros eu hymweliad arfaethedig a lefel y cymorth ariannol y gofynnir amdano.   Sylwer, gan mai dim ond arian cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer y cynllun, na fydd holl gostau OIV yn cael eu talu o reidrwydd.

Mae pob OIV yn dibynnu ar gyngor teithio a pholisïau sefydliadol yn ymwneud ag asesiadau risg a threfniadau yswiriant.

Rheoliadau’r cynllun

  • Dim ond gan ddeiliaid dyfarniadau ‘ymchwil’ yng nghydran doethuriaeth +3 eu hefrydiaeth y gellir ystyried ceisiadau. Nid yw myfyrwyr yn y flwyddyn ‘hyfforddiant’ Meistr cychwynnol yn gymwys i wneud cais. Mae myfyrwyr yng nghyfnod ysgrifennu/heb ei ariannu eu PhD hefyd yn anghymwys.
  • Gall myfyrwyr rhan-amser a ariennir gan yr ESRC ddod yn gymwys os byddant yn trosglwyddo statws i fyfyrwyr amser llawn am gyfnod yr ymweliad.
  • Rhaid sicrhau cefnogaeth ac awdurdodiad gan brif oruchwyliwr myfyriwr ar gyfer pob cais.
  • Dylai ymgeiswyr arddangos rhaglen waith gynlluniedig glir gyda’r sefydliad(au) lletya a/neu’r partner(iaid) lletya a nodwyd. Mae angen llythyr neu ddatganiad o gefnogaeth gan y sefydliad lletya arfaethedig a ddylai nid yn unig nodi eu parodrwydd i gynnal ymweliad ond hefyd nodi sut cefnogir gweithgareddau myfyriwr.
  • Dim ond un cais y gellir ei wneud yn ystod cyfnod eich ysgoloriaeth ymchwil. Gellir gwneud cais am hyd at dri ymweliad rhyngwladol tramor ar wahân i’r un brifysgol letya yn ystod eich ysgoloriaeth ymchwil, cyn belled ag nad yw cyfanswm cyfnod yr ymweliadau yn fwy na thri mis (13 wythnos). Fodd bynnag, fe’ch anogir yn gryf i wneud un daith awyren ddwyffordd, o safbwynt cynaliadwyedd, ac i gadw costau yn hylaw. Byddai angen cyfiawnhau hedfan sawl tro.
  • Rhaid cynnal ymweliadau â sefydliad addysg uwch. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol yr ystyrir ceisiadau i sefydliadau ymchwil eraill uchel eu parch sydd â phrif swyddfa ymchwil y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Bydd angen darparu cyfiawnhad dros ymweld â sefydliad ymchwil.
  • Gan mai bwriad OIVs yw bod yn rhan annatod o hyfforddiant ymchwil, rhaid i unrhyw ymweliad ym mlwyddyn gyntaf PhD beidio â dechrau o fewn tri mis cyntaf cyfnod yr ysgoloriaeth ymchwil. Rhaid cwblhau ymweliadau sy’n digwydd ym mlwyddyn olaf yr ysgoloriaeth ymchwil o leiaf dri mis cyn dyddiad terfyn y dyfarniad (cyn i gyfnod ymestyn yr OIV gael ei weithredu).
  • Dylech ymgynghori â canllawiau’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu ynghylch eich cyrchfan arfaethedig. Rhaid peidio â chynnal ymweliadau os yw’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu yn cynghori yn erbyn ymweld â’r wlad dan sylw. Mae arweiniad pellach ar gael ar dudalennau gov.uk ar basportau, teithio a byw dramor. Y myfyrwyr sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod wedi gwneud y trefniadau fisa angenrheidiol ar gyfer teithio rhyngwladol.  Dylid ceisio cyngor gan Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol letya, neu gorff cyfatebol.  Mae’n bosibl y bydd gan fyfyrwyr sy’n astudio dan fisa Haen 4 gyfyngiadau pellach ar eu teithio a dylent ofyn am gyngor.
  • Nid bwriad OIV yw talu costau gwaith maes. Mae arian ar wahân ar gael ar gyfer ymweliadau gwaith maes tramor. Rydym yn cydnabod y gellid cynnal elfen o waith maes yn ystod OIV o dan amgylchiadau penodol. Dylid cyfiawnhau’r amgylchiadau hyn yn eglur yn eich cais.
  • Ni fydd ôl-hawliadau yn cael eu hystyried.
  • Fel derbynnydd cyllid rydych yn cytuno i roi adborth ar eich profiad OIV naill ai drwy bostiad blog ar gyfer gwefan YGGCC, erthygl cylchlythyr neu drwy gyfrannu at sesiynau hyfforddi/cynadleddau YGGCC.

Beth fydd cynnwys cais llwyddiannus?

  • Achos clir a chadarn dros pam mae’r ymweliad(au) yn bwysig a’r manteision a ddaw yn ei sgil.
  • Manylion cynlluniau cydweithredu neu rwydweithio, gan gynnwys sut gellid datblygu’r rhain ymhellach yn dilyn yr ymweliad(au).
  • Gwybodaeth am sut gallai’r ymweliad(au) gyfrannu at eich gyrfa a/neu ehangu gorwelion academaidd.
  • Unrhyw ganlyniadau disgwyliedig o’r ymweliad(au) a manylion sut byddwch yn lledaenu’r canfyddiadau.

Sut mae Gwneud Cais

Ceir dau ddyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau OIV bob blwyddyn (fel arfer yn ystod semestrau’r hydref a’r gwanwyn). Dylid gwneud ceisiadau o leiaf dri mis cyn yr ymweliad arfaethedig.  Gellir ystyried cyflwyniadau diweddarach, ond bydd risg yn hynny oherwydd y cyfnod sydd ei angen ar gyfer adolygu, ymgynghori, a’r amser sydd ei angen i drefnu yswiriant, fisas ac ati.  Bydd cais fel arfer yn cael ei ystyried a chanlyniad yn cael ei gadarnhau o fewn mis i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.  Mae hyn yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a phe bai nifer sylweddol yn dod i law, gallai penderfyniadau ariannu gymryd mwy o amser.

Dychwelwch y Ffurflenni Cais OIV wedi eu cwblhau i enquiries@walesdtp.ac.uk.

Y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau Ymweliadau â Sefydliadau Tramor (OIV) ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yw:

Dydd Gwener 29 Medi 2023
Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
Dydd Gwener 27 Medi 2024

Ceisiadau llwyddiannus

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ag ysgoloriaeth ymchwil lawn yn derbyn costau’r ymweliad hyd at gyfanswm o £4,000 (neu gyfraniad at gostau fel y pennir gan YGGCC) ynghyd ag estyniad taledig sy’n cyfateb i’r cyfnod o amser a dreulir dramor. Bydd myfyrwyr sy’n talu ffioedd yn unig yn derbyn costau ymweliad (neu gyfraniad at gostau yn unol â phenderfyniad YGGCC), ynghyd ag estyniad i’w ffioedd a dyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil yn unig.
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno Adroddiad Diwedd Dyfarniad OIV o fewn pedair wythnos i ddiwedd yr ymweliad. Disgwylir y bydd eich goruchwyliwr a’r prif gyswllt academaidd yn y brifysgol dramor yn darparu sylwadau ar fuddion yr ymweliad.

Rhowch wybod i swyddfa YGGCC os gwneir newidiadau i gynlluniau eich ymweliad.

Nodiadau ar y Cais

  • Efallai na fydd yn bosibl i YGGCC ariannu OIV myfyriwr yn llawn ym mhob achos.  Lle nad oes ond cyllid rhannol ar gael, bydd gan y myfyriwr ddisgresiwn i ddefnyddio ei Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG) i ychwanegu at y swm sydd ar gael.
  • Bydd OIVs yn dod o dan bolisi yswiriant teithio sefydliad lletya deiliad y dyfarniad. Bydd angen i ddeiliad y dyfarniad sicrhau eu bod wedi’u cynnwys yn yswiriant eu sefydliad lletya cyn ymadael.
  • Nid yw OIV’s yn cynnwys treuliau unrhyw aelod o’r teulu sy’n mynd gyda myfyriwr.
  • Gofynnir i chi amcangyfrif neu ddarparu dyfynbrisiau ar gyfer costau gwirioneddol, gan ddefnyddio safleoedd teithio neu numbeo.com.  Dylai costau fod mor gywir a manwl â phosibl.  Bydd taliadau cyflog yn parhau i gael eu talu yn ystod eich OIV a disgwylir y byddant yn cael eu defnyddio i helpu i dalu costau byw h.y. costau cynhaliaeth.  
  • Os bydd angen defnyddio llety AirBnB, rhaid i chi wirio canllawiau teithio’r sefydliad lletya ymlaen llaw.  Mae’n bosib mai dim ond o dan amodau caeth y caniateir defnyddio AirBnB ac mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw opsiynau eraill ar gael.  Mae cymeradwyaeth ymlaen llaw gan sefydliad lletya myfyriwr yn ofynnol ar gyfer hawlio unrhyw dreuliau AirBnB.
  • Unwaith bydd y lwfans wedi’i ddyrannu, cyfrifoldeb y myfyriwr fydd rheoli’r cyllid. Ni chynyddir y rhain i dalu costau eraill a ddaw i ran myfyriwr tra bo dramor. Os caiff OIV ei adael, ei leihau neu os bydd yn aflwyddiannus, gan olygu bod y myfyriwr yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn gynnar, bydd lwfans YGGCC yn cael ei ostwng yn unol â hynny. Bydd y gefnogaeth YGGCC yn cael ei chyfyngu i dalu am gostau unrhyw wariant rhesymol a gafwyd eisoes.
  • Dylai’r myfyrwyr ddilyn prosesau sefydliadau lleol ar gyfer trefnu a rheoli trefniadau teithio. Bydd gofyn i chi fodloni unrhyw ofynion teithio sefydliadol cyn i’r arian gael ei ryddhau, gan gynnwys cadw at weithdrefnau iechyd a diogelwch a chwblhau asesiadau risg.
  • Unwaith bydd cais wedi’i gymeradwyo gan YGGCC, bydd sefydliad cartref y myfyriwr yn gweinyddu trefniadau talu. Mae’n ofynnol i chi ddilyn y canllawiau ar hawlio treuliau ac ad-daliadau gan eich sefydliad cartref. Bydd cyllid OIV cymeradwy yn cael ei drosglwyddo gan YGGCC i’r sefydliad ar ôl derbyn datganiad terfynol o wariant a wnaed, ynghyd â derbynebau ategol.

Meini Prawf Asesu

Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • pwrpas yr ymweliad a’r gwerth a ychwanegwyd i’r ymgeisydd a’r sefydliad lletya
  • cyfraniad at ymchwil a/neu hyfforddiant deiliad y dyfarniad
  • y cynllun gwaith arfaethedig a’r rhaglen weithgareddau
  • trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth barhaus a ddarperir gan y goruchwyliwr
  • yr achos dros gefnogaeth a ddarperir gan y brifysgol letya arfaethedig
  • cefnogaeth, cyfleusterau ac adnoddau a ddarperir gan y sefydliad lletya
  • datganiad cefnogaeth y goruchwyliwr
  • gwerth am arian
  • lleoliad, hyd a chost y gweithgaredd arfaethedig
  • yr ystyriaethau moesegol ac ymarferol a allai gael effaith ar y cynnig

Profiadau Myfyrwyr ar Ymweliadau â Sefydliadau Tramor

Gallwch wrando ar sgwrs 10 munud gan Annabel Wilson, un o fyfyrwyr YGGCC, am ei hymweliad â sefydliad tramor i Brifysgol Duke, a recordiwyd yn ein digwyddiad ymsefydlu yn 2017. Yn y fideo 3 munud canlynol, mae myfyriwr YGGCC sydd wedi bod ar ymweliad sefydliadol tramor yn disgrifio ei brofiad.

Tim Jackson

Tim Jackson ar ei ymweliad â Phrifysgol Boston