10:00 y.b. - 4:00 y.p., Dydd Mercher 9 Hydref 2019
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer cynhadledd amlieithrwydd Prifysgol Caerdydd ar 6ed o Dachwedd 2019, wedi’i chyd-drefnu gan Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae galwad am bapurau ar agor ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio yn y meysydd dwyieithrwydd, amlieithrwydd, addysgac ieithyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Gofynnir am gyflwyniad o hyd at 10 munud ar eich gwaith ymchwil chi, ac yna bydd trafodaeth banel er mwyn trafod eich pynciau yn bellach.
Gellir cyflwyno ar y pynciau isod ond nid yw hon yn rhestr gyfyngedig:
- Arfer a hunaniaethau dwyieithog ac amlieithog
- Dulliau creadigol o ddysgu ieithoedd
- Polisi iaith a hyrwyddo ieithoedd
- Polisi iaith y teulu
Anfonwch grynodebau o hyd at 200 o eiriau i Eira Jepson, Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd, jepsoneb1@cardiff.ac.uk os gwelwch yn dda.