Cyfres Gweminarau Dadansoddi Rhwydweithiau Cymdeithasol: 3. Technegau a Dulliau Dadansoddi

3:00 y.p. - 4:00 y.p., Dydd Mawrth 29 Medi 2020

Dyma’r trydydd mewn cyfres o dair gweminar

Mae’r gweminar hwn yn diffinio a dangos dulliau dadansoddi sylfaenol a chanolradd, gan gynnwys mesur maint y rhwydwaith, ei dwysedd, cydlyniant, llwybrau, tyllau strwythurol a mwy; ac yn cyfeirio at ddulliau mwy datblygedig (e.e. modelu graff esbonyddol ar hap).

Mae’r gweminar hwn yn rhad ac am ddim. Rhagor o wybodaeth a manylion cadw lle ar wefan Gwasanaeth Data’r DU.