Cynllun Cyfnewid Doethurol Globalink – Dyddiad cau galwad 2

Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 9 Mehefin 2020

Dyma gyfle i fyfyrwyr doethurol UKRI ac o Ganada gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid ymchwil y DU-Canada. Bydd hyd at 200 o ymgeiswyr doethurol o’r DU yn cael y cyfle i ddatblygu’n ddinasyddion byd-eang, â chymwyseddau rhyngwladol, yn ystod lleoliadau ymchwil 12 wythnos mewn prifysgolion yng Nghanada; a bydd nifer debyg o fyfyrwyr o Ganada yn ymweld â phrifysgolion yn y DU.

COVID-19: Y dyddiad dechrau cynharaf posibl ar gyfer lleoliadau a ariennir drwy’r alwad hon yw mis Hydref 2020. Bydd UKRI yn cadw’r sefyllfa hon dan adolygiad wrth i’r ymateb byd-eang i COVID-19 ddatblygu a chynnal hyblygrwydd yn unol â hynny.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan UKRI ynghyd â chanllawiau pellach ar COVID-19.