Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am Gyllid Cyflymu Cydweithrediadau Busnes

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 9 Medi 2020

Dyrannwyd £100,000 i PHD Cymru ESRC a Chyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Caerdydd gan y Gronfa Buddsoddi Cynhyrchedd Cenedlaethol i ehangu cyfleoedd ac adeiladu gallu a chapasiti myfyrwyr doethurol y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa er mwyn ymgysylltu a chydweithio â busnesau.

Er mwyn cyflawni amcanion y cyllid, rydym yn gofyn am gynigion ar gyfer prosiectau gwerth rhwng £3,000 a £10,000 sy’n ceisio:

  1. meithrin cysylltiadau gyda busnesau er mwyn sicrhau cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol;
  2. cynnig cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr doethurol i dreulio amser mewn busnes neu i staff busnes dreulio amser yn y Brifysgol er mwyn deall anghenion ei gilydd;
  3. cynnwys myfyrwyr PhD yn y prosiect cyfan er mwyn datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o anghenion busnes.

Gall y cynllun gefnogi unrhyw ymchwilydd doethurol y gwyddorau cymdeithasol neu ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa o fewn unrhyw un o’r sefydliadau sy’n rhan o PHD Cymru, p’un a yw ESRC yn ariannu ei brif hyfforddiant neu astudiaethau ai peidio. Mae’n rhaid i geisiadau fod yn seiliedig ar ymchwil sy’n cynnwys myfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol a Doethurol yn bennaf ac mae’n rhaid sicrhau mai ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa sy’n elwa fwyaf o bob gweithgaredd a gefnogir. Gall ymgeiswyr gydweithio ag unrhyw fusnes o unrhyw sector, gan gynnwys menter cymdeithasol, er na ellir defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithgareddau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Dylai gweithgareddau ganolbwyntio ar gefnogi’r broses o gydweithio’n uniongyrchol â busnesau.

Gellir cyflwyno ceisiadau hyd at hanner dydd ar y dyddiad cau.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol neu am gopi o’r ffurflen gais, cysylltwch â Thîm Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Caerdydd.