Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am Gymrodoriaethau Maes o Ddiddordeb Ymchwil (ARI)

Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 6 Awst 2019

Mae ESRC a Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth (GO Science) wedi cyhoeddi bod Cymrodoriaethau Maes o Ddiddordeb bellach yn fyw. Nod y Cymrodoriaethau hyn yw galluogi cyfleoedd gwirioneddol i gydweithio (ar brosiectau, dadansoddiadau a rhaglenni gwaith) rhwng ymchwilwyr a’r rheiny sy’n creu a llywio polisïau. Teitlau swydd y ddau Gymrawd yma fydd Cymrawd Ymgysylltu ag Ymchwil ARI a Chymrawd Ymgysylltu â Pholisïau ARI. Bydd y Cymrodorion yn cydweithio fel tîm, a chyda GO Science (a’r rhwydwaith Prif Gynghorwyr Gwyddonol) ac ESRC, i hwyluso ymchwilwyr ac adrannau o’r llywodraeth (a rhanddeiliaid perthnasol) sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu a bwrw ymlaen â chyfnewid ymchwil a gwybodaeth sy’n ymdrin â’r ARI.

Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld ym mis Medi a bydd y Cymrodoriaethau yn dechrau cyn gynted â phosib o fis Hydref 2019 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth a dogfennau’r alwad ar wefan ESRC.