Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i Gynllun Cyfnewid Doethurol Globalink y DU-Canada

Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020

Mae Cynllun Cyfnewid Doethurol Globalink y DU-Canada yn rhoi cyfle i hyd at 200 o fyfyrwyr doethurol a ariennir gan UKRI (gan gynnwys myfyrwyr a ariennir gan ESRC) gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid ymchwil rhwng y DU-Canada. Bydd yn cefnogi costau teithio, byw ac ymchwil i chi yn eich maes astudio, yn ystod lleoliad ymchwil 12 wythnos mewn prifysgol yng Nghanada fydd yn dechrau fis Ebrill 2021.

I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth ar sut i ymgeisio, ewch i wefan UKRI.