Dyddiad Cau: Dydd Gwener 5 Mawrth 2021
Dyrannwyd £100,000 i PHD Cymru ESRC a Chyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Caerdydd gan y Gronfa Buddsoddi Cynhyrchedd Cenedlaethol i ehangu cyfleoedd ac adeiladu gallu a chapasiti myfyrwyr doethurol y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa er mwyn ymgysylltu a chydweithio â busnesau.
Rydym yn galw am gynigion ar gyfer prosiectau o £3-10K sydd eisoes yn cymryd rhan mewn ymchwil sy’n gysylltiedig â Covid ac sy’n edrych i gymhwyso eu hymchwil o fewn y sector preifat yn benodol gyda busnesau. Bydd prosiectau hefyd yn ceisio:
- meithrin cysylltiadau gyda busnesau er mwyn sicrhau cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol;
- cynnig cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr doethurol i dreulio amser mewn busnes neu i staff busnes dreulio amser yn y Brifysgol er mwyn deall anghenion ei gilydd;
- cynnwys myfyrwyr PhD yn y prosiect cyfan er mwyn datblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth o anghenion busnes.
Gall y cynllun gefnogi unrhyw ymchwilydd doethurol y gwyddorau cymdeithasol neu ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa o fewn unrhyw un o’r sefydliadau sy’n rhan o PHD Cymru, p’un a yw ESRC yn ariannu ei brif hyfforddiant neu astudiaethau ai peidio. Mae’n rhaid i geisiadau fod yn seiliedig ar ymchwil sy’n cynnwys myfyrwyr y gwyddorau cymdeithasol a Doethurol yn bennaf ac mae’n rhaid sicrhau mai ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa sy’n elwa fwyaf o bob gweithgaredd a gefnogir. Gall ymgeiswyr gydweithio ag unrhyw fusnes o unrhyw sector, gan gynnwys menter cymdeithasol, er na ellir defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithgareddau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector.
Gellir cyflwyno ceisiadau hyd at hanner dydd ar y dyddiad cau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol neu am gopi o’r ffurflen gais, cysylltwch â Thîm Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Caerdydd.