Dyddiad Cau Cyflwyno Ceisiadau Rhaglen Haf Cymdeithas Japan ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth (JSPS) 2020

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 15 Ionawr 2020

Mae Rhaglen Haf Cymdeithas Japan ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth (JSPS) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr PhD cyfredol gael wythnos gyfeiriadol ar ddiwylliant a systemau ymchwil Japan ar ôl cyrraedd, cyn symud i sefydliad lletya o’u dewis yn Japan, a gymeradwywyd gan JSPS, i gyflawni gweithgareddau ymchwil ar y cyd am ddau fis yn ystod yr haf (9 Mehefin at 19 Awst).

Ar gyfer Rhaglen 2020, mae 23 o leoedd cymrodoriaeth ar gael i bobl sy’n hanu o’r Deyrnas Unedig. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion (gan gynnwys cymhwysedd) ar wefan JSPS Llundain a cheir manylion am y weithdrefn ymgeisio ar wefan Cyngor Prydeinig Tokyo.

Ebostiwch science@britishcouncil.or.jp os oes gennych unrhyw gwestiynau.