Dyddiad cau Cynllun Interniaethau Polisi Ymchwil ac Arloesedd y DU

Dyddiad Cau: Dydd Iau 10 Medi 2020

ae galwad 2020/21 am Gynllun Interniaethau Polisi UKRI bellach ar agor. Mae’r Cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr doethurol a ariennir gan gynghorau ymchwil ac arloesedd y DU i weithio am dri mis mewn sefydliad polisi dylanwadol iawn. Bydd myfyrwyr sy’n gwneud interniaeth drwy’r Cynllun yn gweithio ar un neu fwy o bynciau polisi sy’n berthnasol i’r myfyriwr yn ogystal â’r sefydliad lletyol. Disgwylir i chi gynhyrchu o leiaf un papur briffio, cymryd rhan mewn ymchwiliad polisi a/neu drefnu digwyddiad polisi, neu ddarn o waith cyfatebol.

Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, byddwch yn ennill estyniad i’ch dyfarniad ESRC a bydd y rhan fwyaf o’r sefydliadau cynnal yn darparu cefnogaeth ar gyfer teithio a llety hyd at £2,400 trwy gydol yr interniaeth – lle na wnânt hynny, bydd DTP Cymru yn defnyddio ei hyblygrwydd cyllidebol i gefnogi cost resymol â thystiolaeth o’r math hwn, ar yr amod eu bod yn cytuno ymlaen llaw.

Gellir gweld manylion llawn yr interniaethau sydd ar gael, a’r broses ymgeisio, ar gwefan UKRI. Fel rhan o’r broses ymgeisio, dylech gysylltu â DTP Cymru erbyn 3 Medi fan bellaf i drafod eich cais.