Dyddiad cau Cynllun Interniaethau Polisi Ymchwil ac Arloesedd y DU

Dyddiad Cau: Dydd Llun 12 Awst 2019

Mae galwad 2019/20 am Gynllun Interniaethau Polisi UKRI bellach ar agor. Mae’r Cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr doethurol a ariennir gan gynghorau ymchwil ac arloesedd y DU i weithio am dri mis mewn sefydliad polisi dylanwadol iawn. Bydd myfyrwyr sy’n gwneud interniaeth drwy’r Cynllun yn gweithio ar un neu fwy o bynciau polisi sy’n berthnasol i’r myfyriwr yn ogystal â’r sefydliad lletyol. Disgwylir iddynt gynhyrchu o leiaf un papur briffio, cymryd rhan mewn ymchwiliad polisi a/neu drefnu digwyddiad polisi, neu ddarn o waith cyfatebol.

Mae gwybodaeth ar sut i wneud cais ynghyd â manylion pellach am bartneriaid cynnal, cyllid a chymhwysedd ar gael ar wefan UKRI.