Dyddiad cau Cynllun Lleoliadau Rhyngwladol AHRC/ESRC

Dyddiad Cau: Dydd Iau 6 Chwefror 2020

Gan eich bod yn fyfyriwr PhD a ariennir gan ESRC, gallwch wneud cais i ymgymryd â lleoliadau tymor-byr yn Llyfrgell y Gyngres yn Washington fel rhan o Gynllun Lleoliadau Rhyngwladol (IPS) AHRC-ESRC. Mae’r cyfleoedd cymrodoriaeth a ariennir yn para am hyd at chwe mis ac yn cynnwys tâl teithio a byw; mynediad heb ei ail at gasgliadau, cyfleusterau, curaduron ac ysgolheigion eraill o fri rhyngwladol; a chyfleoedd i gyflwyno gwaith, rhwydweithio a gwneud cysylltiadau rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn ar wefan AHRC.