Dyddiad Cau Cystadleuaeth Traethawd ar Gasgliad Cysylltiadau Diwylliannol y Cyngor Prydeinig

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Gorffennaf 2020

Mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyhoeddi cystadleuaeth traethawd newydd ar gyfer ei Gasgliad Cysylltiadau Diwylliannol – cyfres sy’n archwilio cyd-destunau’r Cyngor Prydeinig ac achosion astudiaethau i fyfyrio ar y theori ac ymarfer cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol yn fwy eang.

Mae gennych y cyfle i gyhoeddi traethawd (caiff hyd at bedair gwobr gwerth £1,000 eu dyfarnu). Hefyd, diben y gystadleuaeth yw hyrwyddo’r gwaith o gyfnewid gwybodaeth, adeiladu rhwydweithiau a chydweithio rhwng academyddion yn y DU ac arbenigwyr y Cyngor Prydeinig o bob rhan o’n rhwydwaith fyd-eang.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i’r holl ymchwilwyr sy’n gyswllt â phrifysgolion y DU ar bob cam gyrfa, er y gallai’r cyfle fod yn arbennig o addas i PhD ac ymchwilwyr gyrfa cynnar. Rydym hefyd yn croesawu cynigion gan academyddion sydd wedi ennill eu plwyf sydd â syniadau newydd yr hoffent eu ‘profi’ neu eu cymhwyso i gyd-destunau ymchwil newydd.

Ar gyfer y 10 thema strategol, a rhagor o fanylion ar sut i wneud cais, ewch i wefan y Cyngor Prydeinig.