Effaith y Gwyddorau Cymdeithasol yn cydweithio â Busnes a Diwydiant

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 5 Awst 2020

Mewn cydweithrediad â ni yn ESRC Cymru DTP, mae Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Caerdydd yn estyn gwahoddiad i fyfyrwyr doethurol y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i’r cyntaf mewn cyfres o weithdai hyfforddiant ar-lein ar sut gallwn ni ymgysylltu’n llwyddiannus â busnes a diwydiant.

Nod y sesiwn ar-lein hon yw eich helpu chi i gyfleu eich ymchwil bresennol yn glir i randdeiliaid y sector preifat, nodi ffyrdd o fynd at y rhanddeiliaid hyn a gwneud cysylltiadau â nhw, yn ogystal â chreu cydweithrediadau posib.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Mihaela Gruia, sef sylfaenydd a chyfarwyddwr Research Retold, cwmni cyfathrebu ymchwil arbenigol wedi’i leoli yn Leeds sy’n helpu ymchwilwyr i wneud eu canfyddiadau yn ddealladwy i gynulleidfaoedd annhechnegol gan ddefnyddio offer cyfathrebu wedi’u teilwra.

Cofrestrwch drwy Eventbrite.