Dyddiad Cau: Dydd Mercher 31 Mawrth 2021
Mae cyflwyniadau bellach ar agor ar gyfer y symposiwm dydd ‘Herio Tech’ a gynhelir gan Lab Cyfiawnder Data Prifysgol Caerdydd ac Undeb Prospect. Byddem yn croesawu cyflwyniadau ar gyfer papurau ymchwil, gweithdai, adroddiadau, neu fyfyrdodau o
ymarfer ar unrhyw un o’r pynciau a ganlyn:
- Undebau a thechnoleg: heriau a chyfleoedd
- Strategaethau trefnu digidol
- Ymgyrchoedd cyfredol ynghylch technoleg a digideiddio
- Y gweithle wedi’i ddigideiddio
- Data gweithwyr ac ymreolaeth
- Undod mewn oes ddigidol
- Heriau yn y gweithle sy’n codi o’r pandemig coronafeirws
- Cysynoli’r gweithle ar ôl coronafeirws
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Mercher 31ain Ebrill. Byddwch yn derbyn hysbysiad erbyn dydd Gwener 9fed Ebrill. Anfonwch gyflwyniadau at: HopkinsC11@cardiff.ac.uk
Herio Tech mewn Lluniau
Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau creadigol ar gyfer ein horiel, gan gynnwys ffotograffiaeth, gweithiau celf ddigidol, dylunio, neu boster ar y thema ‘Undod Digidol.’ Anfonwch eich cyflwyniadau at HopkinsC11@cardiff.ac.uk. Os ydych chi’n cynnwys monograff ysgrifenedig i gyflwyno’ch gwaith, cyfyngwch ef i 400 gair. Yna bydd cyflwyniadau yn cael eu llunio mewn llyfryn digidol a fydd yn cael ei ddosbarthu i’r holl fynychwyr.