Dyddiad Cau: Dydd Llun 15 Mawrth 2021
Twyllwybodaeth yw lledaenu gwybodaeth y gwyddys ei bod yn ffug yn fwriadol. Mae’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol fel offeryn i ledaenu twyllwybodaeth wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at nodi mai twyllwybodaeth yw un o’r bygythiadau mwyaf i ddemocratiaeth fyd-eang (Fforwm Economaidd y Byd 2016). Yn gynyddol, mae ystod wahanol o weithredwyr yn cyfrannu at lunio a chyfleu twyllwybodaeth, a welir mewn heriau byd-eang allweddol o COVID-19 i etholiadau’r UD. O ganlyniad, er mwyn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o dwyllwybodaeth mae angen cyfraniadau o sawl maes.
Mae’r gweithdy rhyngddisgyblaethol ar-lein hwn yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng iaith, hunaniaeth a thwyllwybodaeth. Y gobaith yw y bydd edrych ar synergeddau rhwng gwahanol ymagweddau at ymchwil i dwyllwybodaeth yn ein helpu i ateb cwestiynau fel: Sut caiff naratifau amlycaf twyllwybodaeth eu llunio ar-lein? Sut mae newyddion ffug yn cylchredeg ar draws gwahanol gymunedau ar-lein? Sut allwn ni ddefnyddio dulliau meintiol i ddeall lledaeniad twyllwybodaeth? Sut allwn ni ddefnyddio dulliau ansoddol i ddeall sut y caiff naratifau twyllwybodaeth eu llunio a’u lledaenu ar draws cymunedau?
Croesawn grynodebau o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn cynnwys ieithyddiaeth gymhwysol, cyfrifiadureg, cymdeithaseg a seicoleg. Hoffem wahodd myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn benodol i rannu ymchwil sydd ar waith yn y maes.
Gallai’r pynciau gynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Perfformiad hunaniaeth mewn cyd-destunau twyllwybodaeth
- Ffurfio Iaith a/neu Gymuned ar-lein
- Genres/naratifau twyllwybodaeth
- Newyddion ffug a pholareiddio
- Lledaenu twyllwybodaeth ar draws rhwydweithiau
- Ymddygiad ‘gweithredwyr drwg’ ar-lein
- Ystyriaethau methodolegol a moesegol mewn ymchwil i dwyllwybodaeth
Os nad yw eich ymchwil yn rhan o’r themâu hyn ond gallai gyfrannu at drafodaethau ar ledaeniad twyllwybodaeth ar-lein, crynhowch thema ehangach eich papur yn eich crynodeb.
Siaradwyr a Gadarnhawyd
Dr. Philip Seargeant (Y Brifysgol Agored): Complementary genres of disinformation: conspiracy theories and ‘fake news’
William Dance (Prifysgol Caerhirfryn): Teitl y papur i’w gadarnhau
Fformat
Cynhelir y digwyddiad ar 30 Ebrill 2021. Ariennir y digwyddiad gan yr ESRC ac mae cyfranogiad am ddim. Bydd cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn agor ar 9 Ebrill 2021.
Cyflwyno Crynodeb
Dyddiad cau: 15 Mawrth 2021
Ni ddylai crynodebau fod yn fwy na 300 gair o hyd (ac eithrio cyfeirnodau). Cynghorwn eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol yng nghyflwyniad eich crynodeb:
- Teitl y papur
- Enw awdur, cysylltiad, a gwybodaeth gyswllt
- Datganiad rhagarweiniol byr sy’n egluro cefndir/arwyddocâd eich ymchwil
- Esboniad o’r methodolegau/fframweithiau a ddefnyddiwyd
- Trosolwg byr o brif ganfyddiadau eich ymchwil
- Datganiad byr i gloi
Cyflwynwch eich crynodeb ar ffurf Word i Aurora Goodwin (Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd): GoodwinA3@caerdydd.ac.uk. Byddwn yn hysbysu’r holl awduron am y canlyniad erbyn 30 Mawrth ac yn cynghori ar y camau nesaf.
Trefnwyr
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ar bobl cyfrif ag Aurora Goodwin (GoodwinA3@caerdydd.ac.uk.ac.uk). Trefnir y digwyddiad gan y Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu, mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Ymchwil Troseddu a Diogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd.