Cyflwyniad i QGIS: Data Gofodol a Dadansoddi Gofodol

10:00 y.b., Dydd Mawrth 20 Ebrill 2021 - 1:00 y.p., Dydd Mercher 28 Ebrill 2021

Yn y cwrs deuddydd ar-lein hwn (a addysgir dros bedwar bore) byddwch yn dysgu beth yw GIS, sut mae’n gweithio a sut y gallwch ei ddefnyddio i greu mapiau a gwneud dadansoddiadau gofodol.

Nid ydym yn cymryd bod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am GIS a byddwch yn dysgu sut i fewnbynnu data i’r GIS, sut i gynhyrchu mapiau gan ddefnyddio’ch data eich hun a’r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud gyda data gofodol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i weithio gydag amrywiaeth o wahanol ffynonellau a mathau o ddata (gan gynnwys data cyfesurynnol XY a data cyfeiriadau neu gôd post) a defnyddio troshaenau gofodol, pwyntio mewn dadansoddiad polygon ac uniadau gofodol.

Sylwch fod y cwrs hwn yn ddau ddiwrnod ond bydd yn cael ei ddysgu dros bedwar bore ar yr 20, 21, 27 a 28 Ebrill rhwng 10am-1pm.

Gellir gweld y manylion llawn yma: https://www.ncrm.ac.uk/training/show.php?article=11010