Rhaglen Economi Greadigol – Cynhadledd ’Beyond 2019’ Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno posteri ECR

Dyddiad Cau: Dydd Llun 15 Gorffennaf 2019

Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn cefnogi Rhaglen Economi Greadigol ar hyn o bryd. Yn rhan o’r rhaglen hon cynhelir cynhadledd ym mis Tachwedd, o’r enw ’Beyond 2019’ sydd eleni yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng y Diwydiannau Creadigol a Deallusrwydd Artiffisial. Mae hyn yn croesi llwybrau gydag ymchwilwyr sy’n gweithio yn y gwyddorau cymdeithasol.

Mae arddangosfa bosteri ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio mewn meysydd sy’n ymwneud ag un o themâu’r gynhadledd (defnyddio data dan arweiniad creadigol; moeseg data; AI a dysgu peiriannol) yn rhan o raglen y gynhadledd. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn galw am gyflwyniadau gan ymchwilwyr. Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan y gynhadledd.

Gwnewch gais erbyn hanner dydd ar y dyddiad cau.