Rhyngddisgyblaeth: Heriau, Beirniadaeth a Chyfleoedd

4:00 y.p. - 5:00 y.p., Dydd Mercher 9 Rhagfyr 2020

Thema’r flwyddyn hon ar gyfer rhaglen Cynhadledd Galluoedd a Gyrfaoedd DTP Cymru yw ‘Rhyngddisgyblaeth: Heriau, Beirniadaeth a Chyfleoedd’. Cynhelir y gynhadledd ar-lein a bydd yn cynnwys deunyddiau i chi eu cwblhau wrth eich pwysau, yn ogystal â sesiynau ‘byw’ sy’n cynnwys cwestiynau ac atebion gyda siaradwyr, sesiynau bwrdd crwn a thrafodaethau grŵp bach.

Mae’r Gynhadledd yn rhad ac am ddim ac yn agored i holl fyfyrwyr DTP Cymru ESRC.  Bydd Rhan Un y gynhadledd yn ystyried beth yw rhyngddisgyblaeth a’i phwysigrwydd.  Bydd Rhan Dau’n canolbwyntio ar sut gallwch wneud eich ymchwil eich hun yn rhyngddisgyblaethol.  Mae’n cynnwys dwy sesiwn ar-lein fyw. Sesiwn Holi ac Ateb fydd yr un gyntaf a gynhelir 4-5yp ar 9 Rhagfyr. Mae’r ail yn gyfle ar gyfer gwaith grŵp ac fe’u cynhelir 4-5yp ar 16 Rhagfyr.

Disgwylir i gyfranogwyr gwblhau’r rhaglen lawn a chymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad byw.

Mae manylion llawn ar gael yn rhaglen y Gynhadledd.

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch neu os ydych yn ei chael hi’n anodd cadw lle, cysylltwch â DTP Cymru drwy ebostio enquiries@walesdtp.ac.uk.

Dyddiad cau ar gyfer cadw lle

30 Tachwedd 2020

Archebion

Bookings are closed for this event.