Sut i Ddatblygu Cynllun B – Gweithdy

10:00 y.b. - 12:15 y.p., Dydd Llun 6 Gorffennaf 2020

Bydd y gweithdy cyfranogol hwn yn eich helpu i nodi deilliannau ac amcanion allweddol eich ymchwil a phennu llwybrau realistig a chyraeddadwy eraill er mwyn eu cyflawni.

Bydd yn canolbwyntio ar sut y gallwch ailgynllunio gweithgareddau a fydd yn cyflawni’r deilliannau hynny a fwriadwyd, ac yn edrych ar sgiliau datrys problemau a dulliau hyblyg a fydd yn eich helpu i addasu i newid. Arweinir y gweithdy hwn gan Dr Sabina Strachan a fydd yn gweithio gyda chi drwy nifer o ddulliau glucard TM o drafod syniadau, cynllunio, datrys problemau ac adnoddau arloesol y byddwch yn gallu eu mireinio, eu haddasu a’u hadolygu er mwyn eu defnyddio drwy gydol eich PhD. Bydd hi’n defnyddio dulliau graffigol i ddangos cysyniadau ac yn dangos adnoddau drwy rannu delweddau byw. Byddwch yn defnyddio enghreifftiau a phrosesau go iawn sy’n hygyrch, yn weledol, yn ymarferol ac yn ystyrlon o’r cyd-destun ar hyn o bryd. Bydd y gweithdy yn addasu i’ch anghenion ac yn caniatáu trafodaethau mewn parau/grwpiau bach a dysgu gan gymheiriaid.

Bydd y gweithdy’n eich annog i feddwl yn greadigol drwy ysgrifennu strategaethau drafft, yn rhoi adnoddau ymarferol ac enghreifftiau go iawn, yn datblygu eich gallu ac yn magu eich hyder i fwrw ymlaen â chamau gweithredu.

  • “Nes i fwynhau’r cwrs yn fawr iawn a dysgu llawer. Yn fy marn i, roedd yn ddosbarth meistr ar sut i gynnal gweminar ar Zoom!”
  • ‘Arweinydd cwrs llawn gwybodaeth, adnoddau defnyddiol’
  • “Rhoddodd ffordd arall i mi i edrych ar fy mhryderon methodolegol.Mae’r adnoddau’n greadigol ac wir yn gwneud i chi feddwl am eich prosiect, lle rydych chi eisiau iddo fynd a sut byddwch yn cyrraedd y lle hynny’
  • ‘Byddaf yn cynllunio fy nghamau nesaf gan ddefnyddio’r adnoddau a ddarparwyd’
  • ‘Roedd edrych ar fy mhrosiect yn wrthrychol ac o sawl persbectif yn ddefnyddiol iawn’
  • ‘Yn sicr dw i am ymchwilio i fy opsiynau cynllun B gan ddefnyddio’r adnoddau pori a dadansoddi, a defnyddio fy myfyrdodau yma yn y fethodoleg’

Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr yn ail flwyddyn eu PhD ar y gweithdy hwn. Rydym hefyd yn cynnal gweminarau ar gyfer ymgeiswyr PhD blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn (7 Gorffennaf). Wrth gofrestru ar gyfer y gweithdy, rydych yn cytuno i ddod i’r digwyddiad hwn o’r dechrau i’r diwedd.  Byddwch yn ymwybodol y gallai’r gweithdy gynnwys gwaith grŵp, ac felly gallai peidio â dod gael effaith ar eraill.  Os bydd pethau’n newid ac na allwch gymryd rhan yn y gweithdy am ba bynnag reswm, rhowch wybod i ni drwy ebostio enquiries@walesdtp.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, er mwyn ein galluogi ni i gynnig eich lle i eraill ar y rhestr aros.

Ni fydd modd cofrestru ar ôl hanner dydd ar 2 Gorffennaf.

Dyddiad cau ar gyfer cadw lle

02 Gorffennaf 2020

Archebion

Bookings are closed for this event.