Sut i Ddatblygu Cynllun B – Gweithdy

7:00 y.p. - 8:15 y.p., Dydd Mawrth 30 Mehefin 2020

Bydd y gweithdy cyfranogol hwn yn eich helpu i nodi deilliannau ac amcanion allweddol eich ymchwil a phennu llwybrau realistig a chyraeddadwy eraill er mwyn eu cyflawni.

Bydd yn canolbwyntio ar sut y gallwch ailgynllunio gweithgareddau a fydd yn cyflawni’r deilliannau hynny a fwriadwyd, ac yn edrych ar sgiliau datrys problemau a dulliau hyblyg a fydd yn eich helpu i addasu i newid. Arweinir y gweithdy hwn gan Dr Sabina Strachan a fydd yn gweithio gyda chi drwy nifer o ddulliau glucard TM o drafod syniadau, cynllunio, datrys problemau ac adnoddau arloesol y byddwch yn gallu eu mireinio, eu haddasu a’u hadolygu er mwyn eu defnyddio drwy gydol eich PhD. Bydd hi’n defnyddio dulliau graffigol i ddangos cysyniadau ac yn dangos adnoddau drwy rannu delweddau byw. Byddwch yn defnyddio enghreifftiau a phrosesau go iawn sy’n hygyrch, yn weledol, yn ymarferol ac yn ystyrlon o’r cyd-destun ar hyn o bryd. Bydd y gweithdy yn addasu i’ch anghenion ac yn caniatáu trafodaethau mewn parau/grwpiau bach a dysgu gan gymheiriaid.

Bydd y gweithdy’n eich annog i feddwl yn greadigol drwy ysgrifennu strategaethau drafft, yn rhoi adnoddau ymarferol ac enghreifftiau go iawn, yn datblygu eich gallu ac yn magu eich hyder i fwrw ymlaen â chamau gweithredu.

Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr yn ail flwyddyn eu PhD ar y gweithdy hwn. Rydym hefyd yn cynnal gweminarau ar gyfer ymgeiswyr PhD blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn (19 Mehefin ac 24 Mehefin). Wrth gofrestru ar gyfer y gweithdy, rydych yn cytuno i ddod i’r digwyddiad hwn o’r dechrau i’r diwedd.  Byddwch yn ymwybodol y gallai’r gweithdy gynnwys gwaith grŵp, ac felly gallai peidio â dod gael effaith ar eraill.  Os bydd pethau’n newid ac na allwch gymryd rhan yn y gweithdy am ba bynnag reswm, rhowch wybod i ni drwy ebostio enquiries@walesdtp.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, er mwyn ein galluogi ni i gynnig eich lle i eraill ar y rhestr aros.

Ni fydd modd cofrestru ar ôl hanner dydd ar 29 Mehefin.

Dyddiad cau ar gyfer cadw lle

29 Mehefin 2020

Archebion

This event is fully booked.