7:00 y.p. - 8:30 y.p., Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2020
Bydd y gweminar yn eich cyflwyno i’r dulliau a fydd yn eich helpu i nodi deilliannau ac amcanion allweddol eich ymchwil a phennu llwybrau er mwyn eu cyflawni.
Bydd yn canolbwyntio ar sut y gallwch ailgynllunio gweithgareddau a fydd yn cyflawni’r deilliannau hynny a fwriadwyd, ac yn eich cyflwyno i’r sgiliau datrys problemau a dulliau hyblyg a fydd yn eich helpu i addasu i newid.
Arweinir y gweithdy hwn gan Dr Sabina Strachan a fydd yn gweithio gyda chi drwy nifer o ddulliau glucard TM o drafod syniadau, cynllunio, datrys problemau ac adnoddau arloesol y byddwch yn gallu eu mireinio, eu haddasu a’u hadolygu i’w defnyddio drwy gydol eich PhD. Bydd hi’n defnyddio dulliau graffigol i ddangos cysyniadau ac yn dangos adnoddau drwy rannu delweddau byw.
Byddwch yn defnyddio enghreifftiau a phrosesau go iawn sy’n hygyrch, yn weledol, yn ymarferol ac yn ystyrlon o’r cyd-destun ar hyn o bryd. Byddwn yn sicrhau bod amser ar gyfer sesiwn grŵp er mwyn cynnal trafodaeth mewn grŵp bach/pâr i chi roi cynnig ar un o’r adnoddau yn y fan a’r lle.
Bydd y gweminar yn rhoi adnoddau ymarfer ac enghreifftiau go iawn i chi, gan geisio datblygu eich gallu a magu eich hyder i fwrw ymlaen â chamau gweithredu.
- ‘Mwynheais natur greadigol wedi’i darlunio’r sesiwn, a’r prosesau cam wrth gam a drafodwyd’
- ‘Rhoddodd sicrwydd i mi bod sawl un arall yn yr un cwch â fi’
- ‘Rhoi datrysiadau ymarferol y gallwch eu defnyddio wedyn’
- ‘Mae’n dda cael ychydig o sicrwydd a syniadau cynllunio gwahanol’
Ni fydd modd cofrestru ar ôl hanner dydd ar 6 Gorffennaf.
Dyddiad cau ar gyfer cadw lle
06 Gorffennaf 2020
Archebion
Bookings are closed for this event.