Sut i Ddatblygu Cynllun B – Gweminar Goruchwyliwr

10:30 y.b. - 12:00 y.p., Dydd Llun 29 Mehefin 2020

Bydd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg i oruchwylwyr o’r adnoddau a’r dulliau a ddefnyddir mewn gweithdai a gweminarau ‘sut i ddatblygu Cynllun B’ ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig. Bydd yn rhoi fframwaith i chi ar gyfer sut y gallwch gefnogi a grymuso’ch myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu cynllun B.

Mae Plan B yn cyflwyno ymchwilwyr ôl-raddedig i’r dulliau a fydd yn eu helpu i nodi deilliannau ac amcanion allweddol eu hymchwil a phennu llwybrau realistig er mwyn eu cyflawni.

Bydd yn canolbwyntio ar sut gall ymchwilwyr ôl-raddedig ailgynllunio gweithgareddau a fydd yn cyflawni’r deilliannau hynny a fwriadwyd, a’u cyflwyno i’r sgiliau datrys problemau a dulliau hyblyg a fydd yn eu helpu i ymaddasu i newid. Mae ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael eu cyflwyno i nifer o ddulliau glucard (TM) o drafod syniadau, cynllunio, datrys problemau ac adnoddau arloesol y byddant yn gallu eu mireinio, eu haddasu a’u hadolygu er mwyn eu defnyddio drwy gydol eu PhD (a thu hwnt).

Arweinir y gweithdy gan Dr Sabina Strachan a fydd yn defnyddio dulliau graffigol i ddangos cysyniadau ac yn dangos adnoddau drwy rannu delweddau byw. Bydd hi’n neilltuo amser ar gyfer sesiwn grwpiau i alluogi trafodaeth pâr/grŵp bach am heriau’r cyd-destun presennol ynglŷn â sut y byddech chi’n defnyddio’r adnoddau gydag ymchwilwyr ôl-raddedig i’w helpu i ymateb i’r heriau hynny.

Ni fydd modd cofrestru ar ôl hanner dydd ar 25 Mehefin.

Dyddiad cau ar gyfer cadw lle

25 Mehefin 2020

Archebion

Bookings are closed for this event.