Sut i Ddatblygu Cynllun B – Gweminar

10:30 y.b. - 12:00 y.p., Dydd Gwener 19 Mehefin 2020

Bydd y gweminar yn eich cyflwyno i’r dulliau a fydd yn eich helpu i nodi deilliannau ac amcanion allweddol eich ymchwil a phennu llwybrau er mwyn eu cyflawni.

Bydd yn canolbwyntio ar sut y gallwch ailgynllunio gweithgareddau a fydd yn cyflawni’r deilliannau hynny a fwriadwyd, ac yn eich cyflwyno i’r sgiliau datrys problemau a dulliau hyblyg a fydd yn eich helpu i addasu i newid.

Arweinir y gweithdy hwn gan Dr Sabina Strachan a fydd yn gweithio gyda chi drwy nifer o ddulliau glucard TM o drafod syniadau, cynllunio, datrys problemau ac adnoddau arloesol y byddwch yn gallu eu mireinio, eu haddasu a’u hadolygu i’w defnyddio drwy gydol eich PhD. Bydd hi’n defnyddio dulliau graffigol i ddangos cysyniadau ac yn dangos adnoddau drwy rannu delweddau byw.

Byddwch yn defnyddio enghreifftiau a phrosesau go iawn sy’n hygyrch, yn weledol, yn ymarferol ac yn ystyrlon o’r cyd-destun ar hyn o bryd. Byddwn yn sicrhau bod amser ar gyfer sesiwn grŵp er mwyn cynnal trafodaeth mewn grŵp bach/pâr i chi roi cynnig ar un o’r adnoddau yn y fan a’r lle.

Bydd y gweminar yn rhoi adnoddau ymarfer ac enghreifftiau go iawn i chi, gan geisio datblygu eich gallu a magu eich hyder i fwrw ymlaen â chamau gweithredu.

Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf neu yn nhrydedd flwyddyn eu PhD ar y gweminar hwn. Rydym hefyd yn cynnal gweithdai i ymgeiswyr PhD yn eu hail flwyddyn (15 Mehefin, 23 Mehefin, 30 Mehefin a 2 Gorffennaf). Wrth gofrestru ar gyfer y gweithdy, rydych yn cytuno i ddod i’r digwyddiad hwn o’r dechrau i’r diwedd.  Byddwch yn ymwybodol y gallai’r gweithdy gynnwys gwaith grŵp, ac felly gallai peidio â dod gael effaith ar eraill.  Os bydd pethau’n newid ac na allwch gymryd rhan yn y gweithdy am ba bynnag reswm, rhowch wybod i ni drwy ebostio enquiries@walesdtp.ac.uk cyn gynted ag y bo modd, er mwyn ein galluogi ni i gynnig eich lle i eraill ar y rhestr aros.

Ni fydd modd cofrestru ar ôl hanner dydd ar 18 Mehefin.

Dyddiad cau ar gyfer cadw lle

18 Mehefin 2020

Archebion

Bookings are closed for this event.