Prosiectau cydweithredol

Mae amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn gweithio mewn partneriaeth â YGGCC.

Ar 6 Medi 2022, cynhaliodd y YGGCC sesiwn wybodaeth ar ysgoloriaethau ymchwil cydweithredol, gan edrych ar fanteision cydweithio ar brosiect ymchwil.  Yn y recordiad canlynol, clywn gan yr Athro Rob Honey, Prifysgol Caerdydd, ar y safbwynt academaidd, a Dr Phil Butler, Prifysgol Caerdydd ar ei brofiad ei hun o gydweithio fel myfyriwr PhD.

Byddwn hefyd yn clywed gan Jim Davies, Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol, Brigâd Dân Llundain, ar sut y gall dyfarniad cydweithredol helpu sefydliadau partner i gyflawni eu nodau.

Ysgoloriaethau ymchwil cydweithredol

Mae sefydliadau yn cynnig cymorth ariannol neu mewn nwyddau (ac weithiau’r ddau) ar gyfer hyfforddiant ymchwil, mewn trefniant sydd wedi ei gynllunio i fod yn fuddiol i’r ddwy ochr.

Interniaethau

Mae ein hinterniaethau yn gyfle i fyfyrwyr PhD gael profiad hanfodol a datblygu sgiliau, tra gall y sefydliad lletyol elwa ar ganfyddiadau’r prosiect ymchwil a ‘chyfeillgarwch feirniadol’ ymchwilydd.

Sefydliadau sy’n gweithio gyda PHD Cymru

Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda sefydliadau, gan gynnwys:

Llywodraeth Cymru; Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC); Cyngor Sir Caerfyrddin a Dinas a Sir Abertawe; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Cerebra; Llamau; Cyfoeth Naturiol Cymru; Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; Arolwg Ordnans; Dŵr Cymru; Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru; Shell Global Solutions (DU); Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru; Cymdeithas Addysg y Gweithwyr De Cymru (WEA); The Wiley Journal of Law and Society; cwmni cyfreithwyr Irwin Mitchell; y Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer pobl sydd ar goll; Food Dudes Health; Ffederasiwn Ffermydd a gerddi cymunedol mewn Dinasoedd; Comisiwn Coedwigaeth yr Alban; SADS UK, ac Ymddiriedolaeth Prawf Cymru.

Eich sefydliad a’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol

Mae ein partneriaethau yn cyfrannu at gyflawni ein hamcan i ddatblygu ‘mecanweithiau cadarn ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth’. Gall sefydliadau anacademaidd elwa o ddifrif ar brosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol a chwarae rhan yn y gwaith o gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw.

Rydym yn awyddus i wneud mwy i feithrin a chynnal cydberthnasau o’r fath. Cysylltwch â Chyfarwyddwr YGGCC os ydych chi’n sefydliad anacademaidd yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector ac yr hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol i archwilio posibiliadau.