Hyfforddiant

Ar ran yr ESRC, rydym yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y myfyrwyr rydym yn eu cyllido yn cael hyfforddiant ymchwil gwyddoniaeth gymdeithasol eang sy’n rhoi sgiliau iddynt reoli gyrfa ymchwil lwyddiannus a chyfrannu at yr economi a’r gymdeithas yn ehangach.

Rydym yn sicrhau darpariaeth o hyfforddiant craidd, penodol i bwnc a lefel uwch – drwy ein rhaglenni meistr mewn dulliau ymchwil, cyrsiau eraill a ddarperir gan sefydliadau YGGCC, a’n cyfleoedd hyfforddi lefel uwch ein hunain, gan gynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi ar-lein.

Yn ychwanegol at hyn, mae amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi eraill ar gael i chi ledled y Deyrnas Unedig fel myfyriwr YGGCC. Yn benodol, mae gennych hawl i fynd i unrhyw un o’r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau hyfforddi dulliau ymchwil a gynigir gan sefydliadau PHD eraill ledled y Deyrnas Unedig. Hysbysebir y rhain drwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRM).