Yn ychwanegol at yr hyfforddiant a ddarparwn ein hunain, fel myfyriwr DTP Cymru, gallwch gael mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi eraill.
Rhaglenni Hyfforddi i Raddedigion
Fel myfyriwr ymchwil yn un o sefydliadau DTP Cymru, bydd gennych chi fynediad at yr amrediad llawn o hyfforddiant a ddarperir gan raglen hyfforddi graddedigion eich sefydliad.
- Prifysgol Aberystwyth: Rhaglen Hyfforddiant Sgiliau Ôl-raddedig
- Prifysgol Bangor: Rhaglen Hyfforddiant a Datblygu’r Ysgol Ddoethurol.
- Prifysgol Caerdydd: Rhaglen yr Academi Ddoethurol.
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Wythnos Hyfforddiant a Sgiliau Ôl-raddedig.
- Prifysgol Swydd Gaerloyw: Cymorth Astudio Ôl-raddedig.
- Prifysgol Abertawe: Datblygu sgiliau myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Rhagor o hyfforddiant Gwyddorau Cymdeithasol yng Nghymru
Mae ein cydweithwyr yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn cynnig cyfres o weithdai, seminarau a chynadleddau, wedi eu hanelu at y rhai sydd â diddordeb yn y gwyddorau cymdeithasol.
Hyfforddiant Gwyddorau Cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig
Mae’r ESRC yn cyllido amrywiaeth o wasanaethau data a dulliau i ategu ymchwil ac astudio. Mae’n darparu’r adnoddau sydd eu hangen i gael mynediad at ddata economaidd-gymdeithasol o safon uchel ac i ddatblygu sgiliau ymchwil. Y gwasanaethau hyn yw:
- Gwasanaeth Data y Deyrnas Unedig: mae’n darparu mynediad at gasgliad o dros 6,000 o setiau data economaidd-gymdeithasol o safon uchel. Mae’n cefnogi defnyddwyr data ac yn gweithio i wella rheoli data.
- Mae’r Ganolfan Astudiaethau Hydredol (CLS) yn rheoli pedair astudiaeth garfan Brydeinig: Astudiaeth Genedlaethol ar Ddatblygiad Plant 1958, Astudiaeth Carfan Brydeinig 1970, Camau Nesaf, ac Astudiaeth Carfan y Mileniwm.
- Mae CLOSER yn hyrwyddo’r defnydd o ymchwil hydredol. Mae’r adnoddau allweddol yn cynnwys rhestrau darllen a chrynodebau o ganfyddiadau, a phorth chwilio i helpu i weld pa ddata a gasglwyd ym mhob un o’r naw astudiaeth ym mhartneriaeth CLOSER.
- Mae Deall y Gymdeithas yn arolwg hydredol mawr o tua 40,000 o gartrefi’r Deyrnas Unedig. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am yr arolwg, yn ogystal ag erthyglau ymchwil, adroddiadau a chyfarwyddiadau polisi yn seiliedig ar yr arolwg hwn.
- Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol yn galluogi ymchwilwyr achrededig i gael mynediad diogel at ddata gweinyddol dienw ar gyfer ymchwil sydd â budd posibl i’r gymdeithas.
- Mae Hwb Astudiaethau Hydredol Data Cyfrifiad a Gweinyddol yn galluogi ymchwilwyr i gael mynediad at ddata hydredol yn seiliedig ar y cyfrifiad a ddewiswyd o gofnodion y cyfrifiad dros amser, yn ogystal â deunydd cysylltiedig o setiau data gweinyddol eraill (fel data iechyd).
- Y Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol yw’r corff aelodaeth proffesiynol ar gyfer ymchwilwyr cymdeithasol, ac mae’n cynnig rhaglen i ategu eu datblygiad proffesiynol.
- Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil yn cefnogi ymchwilwyr wrth ddatblygu eu medrau ymchwil. Mae’n cynnal cronfa ddata helaeth o gyrsiau hyfforddi dulliau ymchwil (gweler isod).
Mae pob gwasanaeth yn darparu cymorth ac yn cyflwyno hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd, a gellir cysylltu â nhw os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddiant pwrpasol.
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRM) yn rhedeg eu digwyddiadau hyfforddi eu hunain. Fel ymchwilydd gwyddor gymdeithasol ôl-raddedig mewn sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, gallwch fynd i’r rhain ar gost o ddim mwy na £30 y diwrnod.
Mae’r NCRM hefyd yn rhestru hyfforddiant ar ddulliau ymchwil a gynigir gan y rhwydwaith cyfan o Ganolfannau Hyfforddi Doethurol ledled y Deyrnas Unedig.
Gellir gweld pob un o’r rhain, a llawer o ddigwyddiadau eraill, yng nghronfa ddata hyfforddi NCRM.
Hyfforddiant arall
Mae rhaglenni seminarau, gweithdai, cyrsiau a digwyddiadau eraill yn cael eu rhedeg gan: