Interniaethau

Fel myfyriwr sy’n cael cyllid drwy YGGCC, mae gennych ddewis heb ei ail o gyfleoedd i ymgymryd ag interniaethau a manteisio ar yr holl fuddion a ddaw yn sgil hynny. Os ydych yn llwyddo wrth wneud cais am interniaeth, byddwch yn cael estyniad cyflogedig i’ch PhD yn hafal i hyd interniaeth (rhwng 1 a 6 mis) fel na fydd yn cymryd amser oddi wrth eich gwaith ymchwil. Mae modd cael costau teithio a llety fel arfer.

Rydych chi’n treulio rhwng un a chwe mis mewn sefydliad anacademaidd yn y sector cyhoeddus, preifat neu gymdeithas sifil (gwirfoddol). Nid oes angen i’r interniaeth fod yn gysylltiedig â’ch ymchwil, ac mae llawer o interniaid wedi dweud bod y profiad wedi rhoi golwg o’r newydd iddynt ar gyfer eu PhD, yn ogystal ag egni newydd ar gyfer y gwaith.

Mae’r interniaethau fel arfer yn golygu darn diffiniedig o waith sy’n seiliedig ar ymchwil ar gyfer y sefydliad cartref.  Ar yr un pryd, mae manteision amlwg i chi, a allai gynnwys datblygu:

  • Rhwydweithiau ymhlith llunwyr polisi ac ymarferwyr
  • Gwybodaeth ddefnyddiol am sefydliadau a sut maent yn gweithio
  • Sgiliau penodol mewn ysgrifennu adroddiadau, cyfathrebu a rheoli amser
  • Eich gallu i weithio mewn tîm
  • Amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy eraill

Rydych yn debygol o ganfod bod cwblhau interniaeth o gymorth i’ch gwneud chi’n fwy amlwg na’ch cymheiriaid wrth wneud cais am swyddi o fewn ac y tu allan i’r byd academaidd.

Rydym yn hysbysebu cyfleoedd am interniaethau gyda Llywodraeth Cymru dair gwaith y flwyddyn, a chyda sefydliadau eraill o bryd i’w gilydd. Mae UKRI yn cynnig cynllun interniaethau polisi sy’n cynnig interniaethau 3 mis i fyfyrwyr wedi eu cyllido drwy ESRC, sydd fel arfer yn cael eu hysbysebu bob haf.

Profiadau interniaeth

Yn y fideos 3 munud a ganlyn, mae myfyrwyr PHD Cymru sydd wedi gwneud interniaethau yn disgrifio eu profiadau ac yn myfyfyrio ar yr hyn maent wedi ei ddysgu, a sut y dylanwadodd hynny ar eu PhD.

David Mair yn sôn am ei interniaeth

David Mair yn siarad am ei interniaeth gyda’r Swyddfa Gartref

Christine Pinkard yn sôn am ei hinterniaeth

Christine Pinkard yn siarad am ei hinterniaeth gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol

Gallwch glywed sgwrs 7 munud gan Catherine Knight ar ei hinterniaeth gyda Llywodraeth Cymru, a recordiwyd yn ein digwyddiad ymsefydlu yn 2017.

Gallwch hefyd ddarllen adroddiadau interniaeth ein myfyrwyr.

Terfynau amser cais am interniaeth

Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru - Dyddiad Cau – 26 Ebrill 2024