Manylion llwybrau

Trosolwg o’r llwybr 
Mae sefydliadau, prosesau a chanlyniadau addysgol yn effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac yn aml ar lefel ddofn iawn. Gyda hyn mewn golwg, mae’r llwybr Addysg yn cyfuno gwaith damcaniaethol blaenllaw, astudiaethau empirig, dadansoddi polisi ac ymarfer, ac arloesedd ac arbenigedd methodolegol i arfogi myfyrwyr ar gyfer y gwaith trylwyr o ddadansoddi prosesau addysgol a’u cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd. Mae’r llwybr yn cydnabod bod i ymchwil effaith fawr o ran llunio dadleuon ar bolisi i’r lefelau uchaf yn y llywodraeth, ac o ran tynnu ar waith trawsddisgyblaethol ym meysydd cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, ieithyddiaeth, gwyddor data a seicoleg. 

Mae’r llwybr Addysg yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, ac rydym yn cynnig arbenigedd sy’n rhychwantu sawl maes addysg a dysgu ledled y sefydliadau hyn. Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys addysgeg a chwricwlwm, cynnwys/allgáu, plant a phobl ifanc, polisi addysg a sgiliau, dysgu oedolion a’r gweithle, rheoli ac arweinyddiaeth, a dysgu trwy dechnoleg, yn ogystal â ffocws ehangach ar ddiwylliant a hunaniaeth, marchnadoedd gwaith a llafur, a dwyieithrwydd ac ieithyddiaeth. Mae’r meysydd dargyfeiriol ond cyflenwol hyn yn dal amrywiaeth gyfoethog o arbenigedd ar draws y pedwar sefydliad sy’n rhan o’r llwybr, ac yn arwydd o’n cryfderau ymchwil.  

Yr amgylchedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant doethurol  
Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cynnwys nifer o rwydweithiau trawsbrifysgol a pholisi cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n defnyddio cryfderau’r pedwar sefydliad i sicrhau arlwy hyfforddi uchel ei safon. Mae’r llwybr wedi’i saernïo ar enw da rhyngwladol am arloesedd methodolegol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys dulliau ansoddol a meintiol uwch, a lle bo pob sefydliad yn cyfrannu meysydd arbenigedd penodol, er enghraifft mewn Ystadegau Uwch (Abertawe), Astudiaethau Cynllunio a Gwerthuso Ymchwil Agos i Ymarfer (Prifysgol Bangor), y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol i Arweinyddiaeth mewn Addysg (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) a Dulliau Creadigol (Prifysgol Caerdydd). Ledled pob sefydliad, mae yna nifer o gyfleoedd i rwydweithio trwy gyfrwng cynadleddau, cyfresi seminarau, cynulliadau, cyfranogiad gweithredol mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, a mentrau eraill. 

Cyfnewid gwybodaeth a gyrfaoedd 
Bydd y myfyrwyr sydd ar y llwybr yn cael cyfle i ymgysylltu â rhwydweithiau’r pedwar sefydliad trwy eu canolfannau ymchwil, gan gynnwys Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), a hefyd â sefydliadau cyhoeddus, sefydliadau preifat a sefydliadau’r trydydd sector, e.e. Llywodraeth Cymru, S4C, Mudiad Ysgolion Meithrin, Ysgol y Gogarth, Teach First Cymru, Chwaraeon Cymru, Gweithlu Addysg Cymru, a llawer mwy. Nod y llwybr Addysg yw meithrin sgiliau ac arbenigedd ymchwilwyr addysg newydd sy’n dechrau ar astudiaeth ddoethurol, ynghyd â chefnogi eu huchelgais gyrfa ar gyfer cyflogaeth yn y byd academaidd ac, yn fwy eang, ar gyfer rolau ymchwilwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. 

Cysylltiadau
Prifysgol Caerdydd – Prof Dean Stroud – StroudDA1@cardiff.ac.uk
Prifysgol Bangor – Dr Jane Macdonnell – j.mcdonnell@bangor.ac.uk
Prifysgol Metropolitan Caerdydd – Prof Steve Cooper – SMCooper@cardiffmet.ac.uk
Prifysgol Abertawe – Dr Emily Lowthian – E.M.Lowthian@Swansea.ac.uk

Proffiliau myfyrwyr