Manylion llwybrau

Mae’r Llwybr Gwyddoniaeth a Thechnoleg wedi ei seilio ar dri maes gwahanol o ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Y cyntaf yw cymdeithaseg gwybodaeth, gyda phwyslais ar wyddoniaeth, gan ganolbwyntio ar natur gymdeithasol arbenigeddau gwyddonol ac arbenigeddau eraill. Yr ail yw astudiaeth gymdeithasol o Biofeddygaeth, sy’n cynnwys ymchwil presennol ar dechnoleg trawsblaniadau mitocondriaidd, niwrowyddoniaeth a defnydd clinigol o ddilyniannu data genomau. Y trydydd yw’r ddealltwriaeth o risg, gan ganolbwyntio ar ymchwil systemau egni ar arloesi cyfrifol a chreu mannau cynaliadwy, gan archwilio agweddau seicogymdeithasol ar y canfyddiad o berygl, bywyd cyfoes ac arferion risg.

Mae’r llwybr yn rhan o Ysgol ryngddisgyblaethol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd ag enw da iawn am gyhoeddiadau rhyngwladol wedi eu hadolygu gan gymheiriaid; mae’n gartref i sawl cyfnodolyn gwyddonol cymdeithasol amlddisgyblaethol ac sy’n canolbwyntio ar ddulliau. Mae myfyrwyr ar y llwybr yn ymgysylltu nid yn unig â myfyrwyr a staff sy’n gweithio yn yr un maes, ond hefyd yn datblygu rhwydweithiau gyda staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill ar draws yr ysgol. Mae’r ysgol yn cefnogi ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i’r garfan ddoethurol, gan gynnwys cinio blynyddol ymchwil ôl-raddedig (digwyddiad cymdeithasol a dathliad o gyflawniadau doethurol); cynhadledd flynyddol myfyrwyr doethurol (gan gynnwys sesiynau papur a cystadleuaeth posteri); y caffi ôl-raddedig sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr, a grwpiau darllen amrywiol sy’n cyfarfod unwaith y mis i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig ag ymchwil cymdeithasol, gwleidyddiaeth a diwylliant.

Mae myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’ yn cwblhau’r modiwl Gwyddoniaeth, Technoleg a Chymdeithas arbenigol fel rhan o’r rhaglen Meistr Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol ryngddisgyblaethol, ochr yn ochr â modiwlau craidd wedi eu teilwra i ddatblygu ymchwilwyr Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth gydag amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen, sesiynau o gwmpas y bwrdd, cyfres seminar a gweithdai dadansoddi data. Ymhlith pethau eraill, mae myfyrwyr Astudiaethau Gwyddoniaeth a Technoleg yn mynd i seminarau wythnosol sy’n cael eu cynnal gan ganolfan ymchwil KES (Arbenigedd Gwybodaeth a Gwyddoniaeth) a chyfarfodydd y Grŵp Buddiant Ymchwil Meddygaeth, Gwyddoniaeth a Diwylliant (MeSC). Mae’r rhain i gyd yn gyfleoedd i gyflwyno data a/neu ddatblygu ysgrifennu, ac ymarfer cyflwyniadau mewn cynadleddau. Fel arfer mae amrywiaeth eang o academyddion a myfyrwyr yn dod i’r cyfarfodydd hyn, ac maent yn fodd o gysylltu myfyrwyr Astudiaethau Gwyddoniaeth a Technoleg gyda’r gymuned academaidd ehangach.

Proffiliau myfyrwyr