Manylion llwybrau

Mae mwy nag un miliwn o blant yn ysgolion Prydain yn astudio drwy iaith nad yw’n famiaith iddynt. Cynhelir busnes, gwyddoniaeth, meddygaeth, gwleidyddiaeth yn Ewrop, a diplomyddiaeth ledled y byd fel mater o drefn gan siaradwyr Saesneg, ond gan amlaf fel iaith dramor neu ail iaith. Mewn cyd-destun byd-eang, mae dwyieithrwydd yn fwyfwy arferol ond mae dealltwriaeth wael am y mater, er gwaethaf ei amlygrwydd addysgol a diwylliannol. Gan hynny, mae astudio dwyieithrwydd yn faes twf, ac yn prysur ddod yn brif ffrwd ym maes ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.

Mae'r llwybr yn seiliedig ar hanes helaeth mewn ymchwil dwyieithrwydd, gan gwmpasu y Ganolfan ar gyfer ymchwil ar ddwyieithrwydd a theori ac ymarfer ym Mangor, sy’n cael ei chyllido gan ESRC, a’r Ganolfan Ymchwil Iaith yn Abertawe. Mae gan brifysgolion Bangor ac Abertawe arbenigedd ategol, sy'n cwmpasu datblygiad dwyieithog ac addysg, cyd-ysgogi iaith anymwybodol, affasia dwyieithog neu berthnasedd ieithyddol, y lecsicon dwyieithog, yn ogystal â pholisi iaith, cyfraith ac ieithyddiaeth gymdeithasol. Mae’r sefydliadau hefyd yn bartneriaid yn y gwaith o greu prosiect ESRC sy’n werth £1.8 miliwn dan arweiniad Prifysgol Caerdydd i gynhyrchu’r corpws cyntaf erioed ar raddfa fawr o ddeunydd Cymraeg.

Mae'r llwybr yn un rhyngddisgyblaethol yn sylfaenol, gan gyfuno ymagweddau o ieithyddiaeth, ieithyddiaeth gymdeithasol, addysg, seicoleg, niwrowyddoniaeth wybyddol; mae'r hyfforddiant yn cynnwys dysgu craidd a dysgu ar y cyd a goruchwylio ar draws gwahanol ysgolion. Bydd myfyrwyr ar lwybr 1+3 yn cwblhau eu blwyddyn o radd meistr (neu gyfnod cyfatebol yn rhan-amser) gyda naill ai MA mewn Dwyieithrwydd neu MSc mewn Ymchwil Seicolegol ym Mangor. Bydd y cam PhD yn digwydd ym Mangor neu yn Abertawe.

Mae myfyrwyr yn dod yn rhan o ddiwylliant cyfoethog ymchwil sy'n cynnwys seminarau, cynadleddau ac ysgolion haf. Gallant hefyd elwa ar gysylltiadau helaeth gyda chanolfannau ymchwil rhyngwladol yn Ewrop ac Unol Daleithiau America, ac ar y cysylltiadau ymchwil niferus rydym wedi eu sefydlu â sefydliadau anacademaidd yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Proffiliau myfyrwyr