Manylion llwybrau

Mae ymddygiad economaidd a chymdeithasol yn digwydd fwyfwy yn y gofod digidol, neu yn yr economi a’r gymdeithas ddigidol. Bu twf esbonyddol o fannau ar-lein sy’n cynhyrchu arwyddion ymhlyg (drwy glicio, trafodion, llwytho i lawr ac ati) ac arwyddion eglur (drwy’r cyfryngau cymdeithasol, adolygiadau, argymhellion ac ati) o anghenion, dyheadau, cymhellion, barn a theimladau dinasyddion. Er enghraifft, gall amlder chwilio am derm iechyd helpu i lywio ymyriadau a chynllunio gofal cymdeithasol yn y dyfodol; a gall negeseuon gan ddefnyddwyr rhwydweithiau cymdeithasol roi cipolwg ar bryderon ar lefel y gymdeithas sy’n uno a rhannu. Mewn geiriau eraill, mae maes cyhoeddus newydd, lle mae cymdeithas sifil a dinasyddiaeth ddigidol yn chwarae rhan gynyddol amlwg.

Mae’r llwybr rhyngddisgyblaethol hwn yn y maes arloesol, heriol hwn, sy’n datblygu’n gyflym. Y bwriad yw datblygu arbenigedd o ran sut i ymchwilio i ddata mawr y cyfryngau cymdeithasol i ddeall amrywiaeth eang o faterion economaidd a chymdeithasol. Yn yr un modd, bydd yn canolbwyntio ar sut mae’r awydd am ffyrdd newydd o fynegi anghenion economaidd a chymdeithasol yn gallu gyrru datblygiadau mewn technoleg ddigidol a’u cymwysiadau. Fel arfer, mae myfyrwyr doethurol yn cael eu goruchwylio ar y cyd gan arbenigwr mewn maes gwyddoniaeth gymhwysol cymdeithasol yn Abertawe a Chaerdydd, ac arbenigwr mewn cyfrifiadureg. Mae eu prosiectau ymchwil yn debygol o ganolbwyntio ar broblemau iechyd a gofal cymdeithasol, cymunedau sydd wedi eu cyfyngu, busnes ac arloesi, diogelwch seiber, troseddau a diogelwch, a pha fewnwelediadau y gellir eu dirnad drwy ddadansoddi data cymdeithasol mawr.

Mae’r llwybr yn seiliedig ar enw da iawn am brosiectau ymchwil a chanolfannau ymchwil, gan gynnwys: Canolfan CHERISH DE – Economi Digidol y Cam Nesaf, y Ganolfan ar gyfer materion Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol a’r Ffowndri Cyfrifiadurol newydd, yn Abertawe; y Labordy Gwyddoniaeth Data Cymdeithasol yng Nghaerdydd, sy’n cynnwys aelodau o staff o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Caerdydd.

Bydd yr hyfforddiant ymchwil lefel gradd Meistr yn cael ei gyflwyno drwy raglenni Meistr cyfochrog ym mhob sefydliad, ac mae’r rhain yn cyfuno amrywiaeth o sgiliau ymchwil gydag elfennau pwnc-benodol fel Theori Gwybodaeth Ddigidol a Chymdeithas (Abertawe) a Gwyddorau Cymdeithasol Cyfrifiadurol (Caerdydd). Mae hyfforddiant pwnc-benodol pellach a gweithgareddau meithrin carfan yn cael eu cyflwyno drwy labordai sgiliau preswyl sy’n cael eu haddysgu ar y cyd.

Cysylltiadau
Prifysgol Abertawe – Dr Matt Roach – m.j.roach@swansea.ac.uk 
Prifysgol Caerdydd – Prof Matt Williams – williamsM7@cardiff.ac.uk

Proffiliau myfyrwyr