Gofynnom ni i’n myfyrwyr yn ddiweddar am ymchwil sy’n berthnasol i COVID-19. Cysylltodd Nicola Heady â ni i roi gwybod am ei phrosiect: Parhau I ddarllen
Adolygiad o effaith COVID-19 ar fyfyrwyr doethurol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn y DU
Mae SMaRteN, y rhwydwaith ymchwil iechyd meddwl myfyrwyr a ariennir gan Ymchwil ac Arloesedd y DU, ar y cyd â Vitae, yn ymchwilio i effaith COVID-19 ar fywydau gwaith bob dydd myfyrwyr doethurol a staff ymchwil. Eu nod yw cynnig dealltwriaeth er mwyn galluogi’r sector i gefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn well. Parhau I ddarllen
Joey Soehardjojo wedi ennill gwobr am y LERA ‘Traethawd Gorau’
Mae Joey Soehardjojo, sy’n gymrawd ôl-ddoethurol gyda PHD Cymru, wedi ennill Gwobr Thomas A. Kochran a Stephen R. Selight am y ‘Traethawd Gorau’, gan y Gymdeithas Lafur a Chyflogadwyedd (LERA). Parhau I ddarllen
Cronfa Ddata Arbenigol am COVID-19: Ymunwch os gallwch helpu
Mae angen mynediad cyflym ar y Senedd at ymchwilwyr sy’n gallu darparu arbenigedd ynghylch y Coronafeirws a’i effeithiau.
Er mwyn i’r Senedd allu gael gafael ar arbenigedd ymchwil perthnasol yn gyflymach, mae Uned Cyfnewid Gwybodaeth y Senedd (KEU) yn creu Cronfa Ddata Arbenigol ar gyfer COVID-19.
Os oes gennych unrhyw arbenigedd sy’n ymwneud â COVID-19 neu ei effeithiau, byddai’r KEU yn ddiolchgar iawn pe byddech yn ymuno â’r gronfa ddata.
Newyddion diweddaraf am COVID19 (Coronafeirws)
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer ein myfyrwyr a’n rhanddeiliaid ar ein tudalen Ymateb i COVID19. Gan fod pethau’n newid yn gyflym, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn aml wrth i wybodaeth newydd ddod i law.
Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru
Mae Interniaeth ar gael gyda Llywodraeth Cymru.
Parhau I ddarllen
Interniaethau gyda Llywodraeth Cymru
Mae gennym ddwy interniaeth ar gael gyda Llywodraeth Cymru. Parhau I ddarllen
Interniaeth gyda Llywodraeth Cymru
Mae Interniaeth ar gael gyda Llywodraeth Cymru.
Parhau I ddarllen
Outdoor Learning Research Goes Global
Mae ymchwil gan Ymchwilydd PHD Cymru, Emily Marchant (Daearyddiaeth Ddynol, Prifysgol Abertawe), ar fanteision dysgu yn yr awyr agored wedi cael ei gyhoeddi gan gyfryngau ar draws y byd. Canfu’r astudiaeth fod awr neu ddwy o ddysgu yn yr awyr agored bob wythnos yn ennyn diddordeb plant, yn gwella’u llesiant ac yn cynyddu boddhad athrawon yn y swydd. Bu allfeydd newyddion gan gynnwys The Conversation, Metro, CBS Boston, the Mother Nature Network ac eraill yn rhannu canfyddiadau o’r astudiaeth.
Myfyriwr PHD Cymru yn ennill Thesis Tri Munud Prifysgol Abertawe
Llongyfarchiadau i Darren Scott, myfyriwr PHD Cymru (yr Economi Ddigidol a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe), enillydd Thesis Tri Munud (3MT) Prifysgol Abertawe yn yr Arddangosfa Ymchwil Ol-raddedig flynyddol. Cafodd Darren dri munud yn unig i grynhoi ei ymchwil mewn ffordd ddiddorol, a soniodd am sut gellid mynd i’r afael â segurdod trwy ddefnyddio apiau ffitrwydd a dyfeisiau i’w gwisgo. Bydd Darren yn mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau rhanbarthol y gystadleuaeth, yn y gobaith o gael ei goroni’n bencampwr cyffredinol y Deyrnas Unedig.