Mae PHD Cymru am longyfarch y saith cymrawd a benodwyd yn ddiweddar fel rhan o Gynllun Cymrodoriaeth Ol-ddoethurol yr ESRC 2019. Bydd pob un o’r cymrodorion yn gysylltiedig â llwybr PHD: Daearyddiaeth Ddynol yn achos Diana Beljaars (ym Mhrifysgol Abertawe) a Jen Owen (ym Mhrifysgol Caerdydd); Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn achos Katarina Kusic (ym Mhrifysgol Aberystwyth); Cynllunio Amgylcheddol yn achos Carla De Laurentis (ym Mhrifysgol Caerdydd); Ieithyddiaeth yn achos Lauren O’Hagan (ym Mhrifysgol Caerdydd); Rheolaeth a Busnes yn achos Joey Soehardjojo (ym Mhrifysgol Caerdydd), a Seicoleg yn achos Hikaru Tsujimura (ym Mhrifysgol Caerdydd).
Arolwg Profiad Myfyrwyr ESRC 2019
Bydd Arolwg Profiad Myfyrwyr ESRC 2019 ar agor o ddydd Llun 17 Mehefin 2019 am 5 wythnos. Bydd yr arolwg yn helpu i hysbysu’r ESRC a’r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTPs) am brofiad ymchwilwyr ôl-raddedig. Cwblhewch yr arolwg nawr!
Arolwg Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil yr ESRC
Mae Canolfan Genedlaethol Dulliau Ymchwil (NCRM) newydd lansio arolwg ar-lein sy’n edrych ar anghenion hyfforddiant myfyrwyr doethuriaeth. Mae’r arolwg hwn yn rhan o ymgynghoriad ynghylch anghenion hyfforddi ehangach a fydd yn helpu i arwain dulliau hyfforddi a ariennir gan yr ESRC yn y DU yn y dyfodol. Mae barn myfyrwyr presennol yn bwysig iawn a gwahoddir myfyrwyr PhD y Gwyddorau Cymdeithasol p’un a ydynt wedi’u hariannu gan yr ESRC ai peidio i lenwi’r arolwg.
Llenwch yr arolwg ar wefan NCRM lle gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth. Cysylltwch â Dr Rebekah Luff: r.luff@soton.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Penodi John Harrington yn Gyfarwyddwr PHD Cymru
Mae PHD Cymru wrth eu bodd yn cyhoeddi bod yr Athro John Harrington wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr newydd arno. Parhau I ddarllen