Tudalen Ysgoloriaethau  2024

Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) yn dyfarnu dros 70 o ysgoloriaethau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) bob blwyddyn ar draws 15 llwybr achrededig wedi’u lleoli mewn 7 prifysgol sy’n cydweithio.    

Mae dwy gystadleuaeth ar gyfer ysgoloriaethau YGGCC; y Gystadleuaeth Gyffredinol, a’r Gystadleuaeth Gydweithredol.  

  • Mae’r Gystadleuaeth Gyffredinol yn cael ei chynhyrchu gan yr ymgeisydd; mae’n rhaid i chi gyflwyno eich prosiect PhD eich hun.   
  • Mae’r Gystadleuaeth Gydweithredol yn cael ei chynhyrchu gan oruchwyliwr; rydych chi’n dewis o blith catalog presennol o brosiectau.  

Nid yw gradd meistr yn rhagofyniad ar gyfer astudio yn yr YGGCC. Darperir ystod o raglenni hyfforddiant gan bartneriaid prifysgol YGGCC, yn ogystal â’n partneriaid allanol, er mwyn caniatáu i fyfyrwyr fodloni’r gofynion hyfforddi ar gyfer cyrsiau ymchwil ôl-raddedig gwyddorau cymdeithasol a bennir gan y Cyngor Ymchwil. Mae’r hyfforddiant gofynnol ac a argymhellir yn seiliedig ar Ddadansoddiad o Anghenion Datblygu unigolyn sy’n asesiad o brofiad blaenorol ac anghenion hyfforddiant yr ymgeisydd, sy’n cyfateb â’r hyfforddiant sydd ar gael gan YGGCC. Mae’r holl ysgoloriaethau ymchwil yn rhai llawn amser neu ran-amser.  

 Gweminarau ‘Sut i…’  

Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliodd YGGCC gweminarau ar gyfer myfyrwyr â diddordeb a darpar ymgeiswyr ar ‘Sut i wneud cais’ a ‘Sut i ysgrifennu cynnig ymchwil’.

Isod mae recordiadau o’r sesiynau gweminar hyn.

Cyllid   

Mae ysgoloriaethau YGGCC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£18,622 ar hyn o bryd) ac mae’n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.    

Mae YGGCC wedi ymrwymo i ehangu mynediad ac i hyrwyddo cynwysoldeb. Mae’n bosib y bydd unrhyw fyfyriwr sy’n gorfod talu costau ychwanegol mewn perthynas â’u hastudiaethau oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, yn gymwys i gael grantiau drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.  

Gall y Lwfans dalu am offer a threuliau bob dydd ac am gynorthwywyr anfeddygol fel gweithwyr cymorth, tiwtoriaid arbenigol, cymorth llyfrgell a swyddog cymryd nodiadau (mae angen hawlio costau llungopïo a nwyddau traul drwy eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil). Nid yw swm pob lwfans yn sefydlog ac fe’i pennir yn unol ag anghenion unigol pob myfyriwr.   

Ar ôl derbyn ysgoloriaeth ymchwil YGGCC, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trafod unrhyw anghenion cymorth ychwanegol gyda’ch sefydliad cartref yn y lle cyntaf, gan roi gwybod i’r Swyddog Anabledd perthnasol eich bod yn cael eich hariannu gan yr ESRC.   

 Isod mae dolenni i dudalennau gwe anabledd prifysgolion unigol.  

Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Abertawe
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Swydd Gaerloyw

Mathau o Ysgoloriaethau ymchwil

Mae hyd y cyfnod astudio yn dibynnu ar brofiad ymchwil blaenorol ac anghenion hyfforddiant a fydd yn cael eu hasesu drwy gwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol ar y cam ymgeisio, a Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn cyn ei ddyfarnu os yn llwyddiannus. Yn seiliedig ar hyn, gall hyd y dyfarniad amrywio o 3.5 i 4.5 mlynedd amser llawn (neu gymhwyster rhan-amser cyfatebol). Mae anghenion hyfforddiant yn cael eu nodi a’u diwallu ar sail hyblyg a phwrpasol drwy’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu, a gaiff ei wirio yn ystod pob blwyddyn astudio. Nid yw cymhwyster lefel meistr fel arfer yn cael ei gynnwys yn y dyfarniad, er y gellir ei gynnig lle nodir hynny gan lefel yr hyfforddiant blaenorol, ac i sicrhau hygyrchedd dyfarniadau YGGCC.  

Dadansoddiad o Anghenion Datblygu

Mae dau gam i’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu, Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol, a gwblheir fel rhan o’ch cais, a Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn, a gaiff ei gwblhau gan ymgeiswyr llwyddiannus.   

Mae’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yn cael ei gwblhau gyda’ch goruchwyliwr unwaith y byddant wedi cytuno i gefnogi’ch cais. Byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd i lenwi ffurflen Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol sy’n manylu ar eich hyfforddiant ymchwil gwyddorau cymdeithasol blaenorol, yn academaidd ac yn ehangach. Ni fydd y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yn cael ei rannu gyda’r panel asesu. Pwrpas y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol yw dechrau proses o fyfyrio’n ofalus ar anghenion a nodau hyfforddi. Gan gydnabod pwysigrwydd denu’r ystod ehangaf o fyfyrwyr galluog, nid ydym yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi cwblhau unrhyw fath penodol o hyfforddiant (e.e. gradd meistr).  

Cwblheir y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn gan Arweinydd Hyfforddiant YGGCC gyda chymorth eich goruchwyliwr os dyfernir ysgoloriaeth YGGCC i chi. Bydd yn tynnu defnyddio’r Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Cychwynnol, ond hefyd yn ei ymestyn ac yn ei ddwysáu’n sylweddol. Bydd y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu Llawn yn nodi pa hyfforddiant sydd ei angen i gefnogi eich astudiaethau ac yn ei dro bydd yn pennu hyd y dyfarniad, a all amrywio o 3.5 mlynedd i 4.5 mlynedd (neu gymhwyster rhan-amser cyfatebol). Mewn rhai achosion, gallai awgrymu bod angen cymryd rhan mewn gradd meistr ymchwil bwrpasol.  

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae YGGCC wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob aelod o’r gymuned fyd-eang waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred na chyfeiriadedd rhywiol.  Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynyddu recriwtio gan grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd, rydym yn annog ac yn croesawu’n benodol geisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, pobl o leiafrifoedd ethnig a hil gymysg Prydeinig, y rhai sy’n gadael gofal ac ymgeiswyr sy’n byw ag anableddau. Rydym yn gweithio i gael gwared ar rwystrau i astudio i bawb ac fel rhan o’n proses recriwtio i adolygu eich cais yn ei gyfanrwydd. Rydym yn gwerthfawrogi myfyrwyr o bob cefndir a phrofiad bywyd.  

Mae anghydraddoldebau strwythurol hanesyddol ac arferion gwahaniaethol mewn addysg wedi arwain at dangynrychiolaeth o gymunedau penodol yn y byd academaidd. Mae YGGCC wedi ymrwymo i nodi ac i fynd i’r afael ag effeithiau’r gwahaniaethu hwn ar ei phrosesau a’i dyfarniadau ei hun. Mae mesurau sy’n gyson â Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys menter sy’n caniatáu llwybrau i gyflwyno enwebiad ysgoloriaeth ychwanegol yn eu cystadleuaeth gyffredinol am ysgoloriaethau, ar yr amod bod o leiaf un o’r ymgeiswyr hynny o gefndir Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, hil gymysg Prydeinig neu o leiafrifoedd ethnig Prydeinig. Gwahoddir pob ymgeisydd i nodi’r ffyrdd y mae eu profiad bywyd a’r heriau y maent wedi’u hwynebu yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i gymuned YGGCC.   

Mae rhagor o wybodaeth am strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP) ar gael ar ein tudalen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. 

Pwy sy’n gymwys

Mae ysgoloriaethau ESRC ar gael i fyfyrwyr sy’n dangos eu bod wedi’u cymhwyso’n dda i ymgymryd ag ymchwil ddoethurol, drwy eu cymwysterau academaidd a’u cyflawniadau eraill. I gael cyllid ysgoloriaeth ESRC, rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy’n gyfwerth â gradd anrhydedd yn y Deyrnas Unedig ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr o sefydliad ymchwil academaidd yn y Deyrnas Unedig.   

Gallai cymwysterau gradd a enillir o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu gyfuniad o gymwysterau a phrofiad sy’n gyfwerth â gradd berthnasol yn y Deyrnas Unedig, gael eu derbyn mewn rhai achosion.  

Nid yw gradd Meistr yn rhagofyniad ar gyfer sicrhau cyllid gan YGGCC. Mae amrywiaeth o raglenni hyfforddiant ar gael yn seiliedig ar asesiad o anghenion hyfforddi a dysgu blaenorol yr ymgeisydd.   

Sylwer na chaiff deiliaid dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil amser llawn yr ESRC fod mewn swydd amser llawn, swydd ran-amser barhaol neu rôl dros dro am gyfnod hir, yn ystod cyfnod eu dyfarniad. Ni chaiff deiliaid rhan-amser ysgoloriaeth ymchwil yr ESRC fod mewn swydd amser llawn. 

Cyfweliadau  

Bydd pob myfyriwr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth YGGCC, os yw’n cyrraedd y rhestr fer, yn cael ei gyfweld gan banel o academyddion yn y llwybr y maent wedi gwneud cais i astudio ynddo. Gellir cynnal cyfweliadau ar-lein neu wyneb yn wyneb. Rydym yn awyddus i gefnogi cyfranogiad gan bob myfyriwr, peidiwch ag oedi cyn rhoi gwybod i’r tîm derbyn myfyrwyr os oes gennych unrhyw addasiadau rhesymol.   

Myfyrwyr cartref

Er mwyn cael statws myfyriwr cartref, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf canlynol:  

  • Bod yn wladolyn yn y Deyrnas Unedig (yn bodloni gofynion preswylio), neu  
  • Bod â statws wedi setlo, neu  
  • Bod â statws cyn-setlo (yn bodloni gofynion preswylio), neu  
  • Bod â chaniatâd amhenodol i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yma.  

Os nad yw ymgeisydd yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod, bydd yn cael ei ystyried yn fyfyriwr rhyngwladol.   I gael rhagor o fanylion, gweler canllawiau UKRI wedi’u diweddaru ar gymhwysedd UE a rhyngwladol.  

Cysylltwch â’r tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad rydych am wneud cais iddo os ydych yn ansicr o’ch statws.  

 Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae hyd at 30% o ysgoloriaethau wedi’u hariannu’n llawn YGGCC ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol fesul carfan. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn ysgoloriaeth a ariennir yn llawn YGGCC ac ni chodir y gwahaniaeth ffioedd arnynt rhwng cyfradd y Deyrnas Unedig a chyfradd ryngwladol.