Interniaethau gyda Llywodraeth Cymru

Mae gennym ddwy interniaeth ar gael gyda Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 20 Ionawr 2020

Mae gennym ddau gyfle interniaeth ar gael, i ddechrau ym mis Ionawr 2020, yn agored i fyfyrwyr ESRC Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a’r De Orllewin Lloegr.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn estyniad 2 fis wedi’i ariannu’n llawn i’w doethuriaeth. Dyma gyfle i weithio y tu allan i’ch prifysgol i ddatblygu amrediad o sgiliau trosglwyddadwy, gwella’ch cyflogadwyedd a chael profiad amhrisiadwy o weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr cymdeithasol, ystadegwyr a swyddogion polisi ar ddadansoddi o fewn y llywodraeth. Os oes gennych ddiddordeb, dylech drafod y cyfle gyda’ch goruchwyliwr yn gyntaf.

Mae mwy o fanylion ar gael yn y ddogfen atodedig, ynghyd â manylion cyswllt.

Sylwch fod yr interniaethau hyn yn agored i unrhyw fyfyriwr a ariennir gan ESRC Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru neu’r De Orllewin Lloegr (eithrio’r rhai o fewn 3 mis i ddechrau neu ddiwedd eu hysgoloriaeth).

Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn canol dydd y dyddiad cau.