PUM AWGRYM I WNEUD EICH CAIS AM INTERNIAETH DOETHURIAETH YN LLWYDDIANT

Croeso i’r cyntaf o dri phostiad blog sydd wedi’u rhannu’n anffurfiol yn: “yr holl bethau yr hoffwn i fod wedi eu gwybod cyn i mi wneud cais am fy interniaeth doethuriaeth”. Mae’r cofnodion byr hyn wedi’u bwriadu ar gyfer y rhai ohonoch nad ydych erioed wedi clywed am wneud interniaeth yn ystod eich doethuriaeth, i’r rhai a allai fod hyd yn oed wedi dechrau gwneud cais!

Strwythur y gyfres:

  1. Awgrymiadau i wneud eich cais am interniaeth yn llwyddiant!
  2. Sut y gallai interniaeth doethuriaeth fod o fudd i chi!
  3. Myfyrdodau i gloi: h.y. = “a fyddwn i’n argymell gwneud interniaeth yn ystod eich doethuriaeth?” 

HelĂ´, Jodie ydw i, ymchwilydd doethuriaeth trydedd flwyddyn (aaah!) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy nhraethawd ymchwil yn ymchwilio i effaith a niwed/niweidiau iaith casineb wrth-LGBTI+ ar-lein.

Roedd fy interniaeth yn swydd tri mis a ariannwyd gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru yn Llywodraeth Cymru (Ionawr–Ebrill 2021), a rhoddwyd y teitl canlynol ar fy mhrosiect: ‘Defnyddio astudiaeth yr Understanding Society i edrych ar newidiadau cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19’.

Nawr, efallai eich bod wedi sylwi nad yw’n ymddangos bod y prosiect hwn yn gysylltiedig â phwnc fy noethuriaeth – a byddech yn llygad eich lle – nid oedd. Gall hyn fod yn fwy cyffredin nag yr ydych yn ei feddwl ac mae’n cyflwyno fy awgrym cyntaf i feddwl am sut i sicrhau bod eich cais yn llwyddiant … 

  1. Meddyliwch beth yw eich cymhellion CHI ar gyfer gwneud cais

Bydd eich cymhellion yn bersonol – rwy’n deall hynny, ond pan fyddwch yn gwneud cais am interniaeth, bydd yn rhaid i chi ddarbwyllo pobl eraill bod y rhain yn rhesymau perthnasol i oedi eich doethuriaeth. Y bobl bwysicaf yn Ă´l pob tebyg fydd eich goruchwylwyr, gan fod angen iddynt ‘gymeradwyo’ eich absenoldeb pan fydd eich cais yn llwyddiannus!

Felly, byddwn yn argymell yn fawr i chi siarad drwy’r cyfle gyda hwy.

Pan glywais am fy mhrosiect am y tro cyntaf gan ddarlithydd, roeddwn wedi pontio’n ddiweddar i ail flwyddyn fy noethuriaeth. Ar y pryd, roeddwn yn ei chael hi’n her astudio ar wahân yng nghanol y pandemig ac roedd trafod y rhesymau pam yr oeddwn am oedi fy mhrosiect doethuriaeth yn fuddiol iawn i mi. Helpodd fy ngoruchwylwyr i mi fynegi fy nghymhellion (a oedd mor bwysig ar gyfer fy ffurflen gais), yn ogystal â chodi rhai pethau hollbwysig nad oeddwn hyd yn oed wedi meddwl amdanynt!

Er enghraifft, a ydych chi ar fin dechrau ysgrifennu eich darn dulliau, ar Ă´l misoedd o gasglu data – ai dyma’r amser y dylech fod yn meddwl am oedi eich doethuriaeth mewn gwirionedd? A yw’r interniaeth yn gysylltiedig â’ch pwnc? Beth ydych chi’n meddwl y byddech chi’n ei ennill o oedi eich doethuriaeth?

Yr hyn rwy’n ceisio’i gyfleu yma yn y pen draw yw … pa werth ydych chi’n disgwyl i’r interniaeth ei ychwanegu?

I mi, nid oedd y gwerth yn gysylltiedig yn uniongyrchol â phwnc fy noethuriaeth … ond mwy y byddwn yn cael profiad gwerthfawr mewn ymchwil gymdeithasol mewn sector arall; roeddwn yn awyddus i ddysgu sut y cynhaliwyd ymchwil mewn lleoliad diwydiant yn hytrach nag un academaidd. Roeddwn hefyd am ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu y tu allan i’r byd academaidd, gan ddysgu sgiliau iaith ac ysgrifennu adroddiadau priodol i bolisi. Yn olaf, o ystyried fy nghariad at ddata, roeddwn yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau dadansoddol a meithrin sgiliau cyflwyno priodol ar gyfer lleoliad busnes.

Y pwynt yw – aseswch y manteision o oedi cryn dipyn o amser allan o’ch doethuriaeth. 

  • Rhowch ddigon o amser ar gyfer y broses ymgeisio 

Nid yw’n broses gyflym!

I roi syniad i chi, rwyf wedi nodi rhai pwyntiau allweddol o fy mhroses ymgeisio:

Hefyd – fel nodyn ategol – yn y rhan fwyaf o achosion, ni allwch wneud cais am interniaeth yn ystod tri mis cyntaf eich rhaglen na’r tri mis olaf. Os ydych yn awyddus i wneud interniaeth, gwnewch yn siĹľr eich bod wedi meddwl am yr amser iawn i wneud cais ac wedi gwirio unrhyw ganllawiau y gallai fod yn rhaid i chi gadw atynt!

  1. Cynlluniwch, drafftiwch ac ailddrafftiwch eich ffurflen gais!

Dyma oedd fy nghamau yn ystod fy mhroses ymgeisio:

  1. Paratowch ar gyfer eich cyfweliad

Ar Ă´l y trafodaethau arferol am y lleoliad, eich sgiliau/profiad ac ati, mae adran i chi ofyn cwestiynau! Dyma’ch cyfle i ofyn cymaint o gwestiynau perthnasol ag y gallwch, fel y gallwch geisio darganfod ai’r lleoliad arfaethedig yw’r dewis iawn i chi.

Fy mhrif gwestiynau oedd a fyddwn yn gallu cysylltu â staff eraill y tu allan i’m ‘tĂŽm’ yn Llywodraeth Cymru; beth oedd canlyniadau disgwyliedig fy mhrosiect; sut olwg fyddai ar fy niwrnod gwaith (efallai y bydd amser hyblyg yn dda os ydych yn aml yn defnyddio’r hyblygrwydd y mae’r ddoethuriaeth yn ei gynnig); ac yn bwysicaf oll gofynnais sut y byddai gweithio ar-lein yn gweithio. Gan nad oeddwn yn gallu mynd i mewn i adeilad Llywodraeth Cymru oherwydd y pandemig, trafodais gyda hwy sut y byddwn yn cael fy nghefnogi, ac a fyddent yn rhoi hyfforddiant/offer i mi. 

  • Ymchwiliwch i gynhaliwr yr interniaeth!

Nid yw ymchwil byth yn dod i ben! Defnyddiais wefan Llywodraeth Cymru a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gofynnais i fyfyrwyr eraill am eu profiadau interniaeth (y da a’r drwg), i gasglu gwybodaeth am yr hyn y gallai fy interniaeth ei olygu ac ethos y gweithle – roedd LinkedIn yn ddefnyddiol iawn i mi mewn gwirionedd! Bydd unrhyw beth y gallwch ei ddysgu cyn i chi ddechrau yn fuddiol!

Rwy’n gobeithio bod y postiad hwn wedi dechrau gwneud i chi feddwl p’un ai interniaeth doethuriaeth sy’n gweddu orau i chi a sut i sicrhau bod eich cais yn llwyddiant!

Am y tro, cadwch lygad am y postiad nesaf, a fydd yn ymdrin â ‘Sut y gallai interniaeth doethuriaeth fod o fudd i chi!’

Jodie

Os hoffech gysylltu â mi i ofyn unrhyw beth am fy mhrofiad interniaeth neu hyd yn oed i sgwrsio am fywyd/ymchwil ddoethurol – gallwch ddod o hyd i’m manylion cyswllt isod.

E-bost – lukerjr@caerdydd.ac.uk

Twitter academaidd – @jodie_luker

Instagram academaidd – @phd_hate_harms