Grantiau Bach

Ddwywaith y flwyddyn rydym ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ESRC a ariannir gan YGGCC a’u goruchwylwyr am symiau bach o gyllid (hyd at £1,000 fesul cais) dan ein cynlluniau grantiau bach.

Gellir defnyddio’r grantiau hyn tuag at gostau ar gyfer teithio a chynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr YGGCC, hurio lleoliadau, lluniaeth, brocera a hysbysebu cyfleoedd, neu arbenigedd arbenigol.

Grantiau bach cydweithredol

Gellir defnyddio’r arian hwn ar gyfer gweithgareddau fel cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â defnyddwyr, mathau o ymgysylltu cyhoeddus, neu drafodaeth barhaus ar ddylunio, dadansoddi neu ganlyniadau gwaith ymchwil gyda buddiannau neu gynulleidfaoedd anacademaidd perthnasol.

Grantiau bach rhyngddisgyblaethol

Gellir defnyddio’r arian hwn i ategu materion rhyngddisgyblaethol, er enghraifft drwy gyfres o seminarau byr, cynhadledd fechan, neu ryw fath o drefniant cyfnewid i alluogi gwaith rhyngddisgyblaethol (a fydd o bosibl yn cynnwys cyfleuster hyfforddi doethurol sy’n cael ei gyllido gan Gyngor Ymchwil arall). Mae’n rhaid i’r gweithgaredd dan sylw fod ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, ac yn agored i bob myfyriwr sy’n cael eu cyllido drwy ESRC ar draws sefydliadau YGGCC.

Grantiau bach meithrin carfannau

Gellir defnyddio’r cronfeydd hyn i ategu digwyddiadau meithrin carfannau mewn llwybr YGGCC neu glwstwr o lwybrau.

Y Broses o Gyflwyno Cais

Dylid gwneud ceisiadau o dan y cynllun ar ffurflen gais YGGCC. Mae’n bosibl gwneud cais am unrhyw swm hyd at uchafswm o £1,000, a gall unigolyn neu grŵp wneud cais (er y bydd un ymgeisydd yn cael ei nodi fel y prif ymgeisydd, a fydd yn gyfrifol am y grant bach). Disgrifiwch, mewn hyd at 500 o eiriau, pa weithgareddau a gynigir, yr amserlenni a ragwelir, a sut bydd y gweithgareddau yn cael eu trefnu. Dylech hefyd ddarparu costau. Rhowch fanylion unrhyw arian y gwnaethoch gais amdano neu a dderbyniwyd o ffynonellau eraill. Bydd gwerth unrhyw gyfraniad ariannol tuag at gostau yn cael eu hystyried wrth asesu ceisiadau.

Dylech nodi nad ydym yn gallu derbyn ceisiadau ôl-weithredol ar gyfer gweithgaredd neu ddigwyddiad sydd wedi digwydd yn barod.

Sylwch fod cefnogaeth YGGCC, p’un a yw’n ariannol, yn dechnegol, neu o ran cyhoeddusrwydd, yn amodol ar drefnwyr digwyddiadau yn cytuno i ddilyn Canllawiau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant YGGCC ar gyfer Cynadleddau a Digwyddiadau (LINK to EDI guidance doc).

Rhaid i’r costau a gofnodir ar gais am grant bach fod yn amlwg yn gysylltiedig â gweithgareddau datblygu a fyddai o fudd i’r garfan ehangach o fyfyrwyr.  Nid yw cyllid grant bach yn talu am y costau sy’n gysylltiedig ag ymchwil PhD unigolyn ei hun. Mae’r Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG) ar gael at y diben hwn.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu llenwi i enquiries@walesdtp.ac.uk

Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno Cais

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, ddydd Gwener 12 Ebrill 2024.

Y Broses Ddethol

Bydd panel asesu YGGCC yn ystyried ceisiadau am grantiau bach. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad byr ar ddiwedd y cyfnod cyllido ar eu gweithgareddau, a bydd fersiwn ohono’n cael ei gyhoeddi ar wefan YGGCC.  Mae’n rhaid gallu archwilio’r holl wariant a bydd gofyn cael dadansoddiad o’r costau gwirioneddol ar ddiwedd y gweithgaredd. Rhaid defnyddio’r arian o fewn 12 mis a bydd costau’n cael eu had-dalu yn dilyn cyflwyno’r adroddiad ar ddiwedd y cyfnod cyllido, ynghyd â dadansoddiad o’r gwariant wedi ei ategu gan dderbynebau/copïau o anfonebau.  Bydd angen rhestr o gynrychiolwyr ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a seminarau a drefnir.

Byddwn yn cyhoeddi’r canlyniadau ym mis Mai 2024.