Grantiau cymorth hyfforddiant ymchwil

Os ydych yn cael eich cyllido fel myfyriwr YGGCC rydych yn gymwys i gael lwfans tuag at eich costau (yn unol â’ch barn chi, eich goruchwyliwr neu eich adran fel modd o roi cymorth uniongyrchol â’ch ymchwil). Gallai enghreifftiau o gostau o’r fath gynnwys:

  • Treuliau gwaith maes yn y Deyrnas Unedig
  • Cynadleddau ac ysgolion haf yn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a thramor
  • cyrsiau hyfforddiant iaith, sydd fel arfer yn cael eu hastudio yn y Deyrnas Unedig cyn taith gwaith maes tramor
  • ad-dalu cyfieithwyr ar y pryd, tywyswyr, cynorthwywyr
  • costau arolwg, e.e. argraffu, deunydd ysgrifennu, galwadau ffôn
  • prynu eitemau bach o gyfarpar e.e. camerâu, recordyddion tâp, ffilmiau
  • llyfrau a deunyddiau darllen eraill nad ydynt ar gael drwy lyfrgelloedd

Bydd eich sefydliad cartref yn prosesu hawliadau yn erbyn eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil. Cysylltwch â gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig eich ysgol/adran yn y lle cyntaf os nad ydych yn siŵr am y broses ar gyfer bilio treuliau yn erbyn eich Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.