Hyfforddiant Iaith Anodd

Mae hyn yn estyniad cyflogedig i fyfyrwyr YGGCC wedi eu cyllido drwy ESRC sy’n rhoi amser ychwanegol i chi (hyd at flwyddyn o gymorth ychwanegol) i gaffael neu ddatblygu gallu ymarferol mewn iaith anodd er mwyn cyflawni gwaith maes (gan gynnwys at ddibenion gwaith maes yn y Deyrnas Unedig) neu rannau eraill o’ch ymchwil.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am y lwfans hwn os ydych chi’n:

  • fyfyriwr sy’n cael cyllid ESRC
  • yng nghyfnod doethurol eich dyfarniad, a
  • bod yr hyfforddiant iaith arfaethedig wedi cael ei amlinellu yn eich cais ymchwil gwreiddiol.

Os oes gennych ddyfarniad ffioedd yn unig, neu os ydych chi yn elfen Meistr eich gwobr, nid ydych yn gymwys i wneud cais.

Nodweddion

Penderfynir ar hyd yr estyniad yn gyffredinol ar sail math a natur yr iaith i’w dysgu, a’ch cefndir chi. Dim ond os oes angen i chi dreulio cyfnod estynedig dramor er mwyn cael y sgiliau iaith hyn y caniateir estyniadau y tu hwnt i chwe mis fel arfer. Gweler yr adran ar Gyfrifo hyd eich estyniad hyfforddiant iaith anodd.

Gall hyfforddiant iaith ddigwydd yn y maes ac yn y Deyrnas Unedig. Os bydd hyfforddiant iaith yn digwydd tra rydych yn gwneud gwaith maes dramor, bydd angen cyflwyno cais am dreuliau gwaith maes tramor hefyd.

Os ydych chi wedi dilyn cwrs Meistr wedi ei ddisgrifio ymlaen llaw, mae disgwyl i chi fod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn yr iaith yn barod, ac felly dim ond am uchafswm o chwe mis o estyniad y gellir gwneud cais.

Ni allwn dderbyn ôl-hawliadau. Ni ellir ymestyn estyniad unwaith y bydd hyfforddiant wedi dechrau.

Sut i wneud cais

  1. Dylech chi a’ch goruchwyliwr lenwi ffurflen gais hyfforddiant iaith anodd YGGCC. Dylai hon gynnwys digon o fanylion i ddangos bod eich ysgol/adran yn cytuno â’r angen am hyfforddiant iaith anodd.
  2. Dylech wneud eich cais o fewn 6 mis ar ôl dechrau ar y rhaglen PhD.
  3. Anfonwch y ffurflen i enquiries@walesdtp.ac.uk o leiaf 12 wythnos cyn yr hyfforddiant arfaethedig.
  4. Os bydd eich cais yn llwyddiannus byddwn yn ysgrifennu atoch chi ac at eich goruchwyliwr i gadarnhau manylion yr estyniad â thâl.

Noder: Bydd angen cymeradwyaeth sefydliadol ar gyfer estyniad i gyllid hyfforddiant iaith anodd, er mwyn cael estyniad cyfatebol i gyfnod cofrestru’r radd PhD.

Cyfrifo hyd eich estyniad hyfforddiant iaith anodd

I roi syniad o’r estyniad y cewch wneud cais amdano, trefnir yr ieithoedd mewn pedwar grŵp. Nodwch mai canllawiau cyffredinol yw’r rhain, ac y bydd pob achos yn cael ei ystyried ar sail ei rinweddau. Er enghraifft, byddai myfyriwr sydd â gradd mewn Arabeg yn annhebygol o gael estyniad o naw mis i gynorthwyo â hyfforddiant ychwanegol yn yr iaith.

Grwp A

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ieithoedd anysgrifenedig neu ieithoedd sydd ar gamau cynnar y broses o’u dadansoddi, lle nad oes gramadegau, geirfaoedd na chymhorthion dysgu eraill ar gael. Gallai’r rhain gynnwys ieithoedd Papwa ac ieithoedd brodorol America.

Gellir gofyn am estyniad o hyd at 12 mis.

Grŵp B

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys:

ieithoedd sydd â phrinder adnoddau disgrifiadol a dysgu ar gael

Ieithoedd sy’n achosi anawsterau cynhenid ar gyfer siaradwyr Saesneg oherwydd eu bod yn ieithoedd clicio, tonyddol, gwrthrych-berf-goddrych, cyfludedig, ac yn y blaen

ieithoedd sydd angen gwybodaeth am ysgrifen wahanol nad ydynt yn llythrennau’r wyddor orllewinol, fel Tsieinëeg, Japaneg, Arabeg ac ieithoedd De a De-ddwyrain Asia.

Gellir gofyn am estyniad o hyd at 9 mis.

Grŵp C

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ieithoedd anodd (fel y’i diffinnir yn grŵp B) sydd wedi cael eu disgrifio’n dda mewn gramadegau, geirfâu ac ati, ond nad oes cymhorthion dysgu yn bodoli, a lle bydd gofyn dysgu’r iaith yn bennaf yn y maes gan athrawon di-grefft. Gallai’r rhain gynnwys ieithoedd amrywiol Affricanaidd, Melanesaidd, ac ieithoedd brodorol America ynghyd â rhai ar is-gyfandir India.

Gellir gofyn am estyniad o hyd at 6 mis.

Grŵp D

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys ieithoedd tebyg i’r rhai yn grŵp C, ond y mae deunyddiau dysgu dwys yn bodoli ar eu cyfer – er enghraifft, cyrsiau, labordai iaith, deunyddiau, tapiau, ac ati. Mae hyn yn cynnwys yr holl ieithoedd Ewropeaidd.

Gellir gofyn am estyniad o hyd at 3 mis.