Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol

Mae WGSSS yn gwahodd ceisiadau am hyd at bedair Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol a ariennir gan yr ESRC yn unrhyw un o’n Llwybrau achrededig i gychwyn ym mis Hydref 2024.

Mae’r cymrodoriaethau wedi’u hanelu at y rheiny ar ddechrau cam ôl-ddoethurol eu gyrfa, er mwyn cynnig y cyfle iddynt atgyfnerthu eu PhD drwy ddatblygu cyhoeddiadau, rhwydweithiau a’u sgiliau ymchwil a phroffesiynol.

Mae’r Cymrodoriaethau’n para blwyddyn (neu gyfnod cyfatebol yn rhan amser) a cheir cyflog. Gallant gynnwys rhywfaint o weithgarwch ymchwil newydd (hyd at 25%), ond eu prif ddiben yw atgyfnerthu eich proffil ymchwil yn fuan ar ôl cwblhau eich PhD yn llwyddiannus.

Mae gwybodaeth lawn ar gael yn y Manylebau Galwadau. Mae’r ESRC hefyd wedi paratoi set o atebion i gwestiynau cyffredin.

Cysylltwch â fellowships@walesdtp.ac.ukos oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb yn y dogfennau canllaw cysylltiedig uchod.

Amserlen

Chwefror 2024 Lansio Cystadleuaeth
16 Mai 2024 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno caisRhaid cyflwyno ceisiadau sy’n cynnwys yr holl atodiadau gorfodol i WGSSS erbyn y dyddiad uchod i gael eu hystyried.
Gorffennaf 2024 Penderfyniadau wedi’u cadarnhau i ymgeiswyrBydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais ym mis Gorffennaf. Gellir rhoi ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn ar yr adeg hon.
Gorffennaf – Awst 2024 Cynigion llwyddiannus wedi’u cyflwyno i’r ESRCOs dyfernir Cymrodoriaeth i chi gan WGSSS, yna bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno eu cynnig i ESRC erbyn mis Awst 2024 fan bellaf.
1 Hydref 2024 Cymrodoriaethau yn Dechrau

Cymhwysedd

Mae’r cyfle hwn yn agored i ymgeiswyr sydd wedi cwblhau eu PhD mewn sefydliad ymchwil yn y DU. Nid oes angen i ymgeiswyr fod wedi llwyddo mewn cais am ysgoloriaeth wedi’i ariannu gan ESRC yn y gorffennol er mwyn bod yn gymwys i wneud cais.

I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr:

  • Fod wedi ennill PhD neu wedi llwyddo yn eu ‘viva voce’ gyda mân addasiadau erbyn y dyddiad cau, sef 16 Mawrth 2024, a bod wedi cael eu dyfarniad PhD erbyn dyddiad dechrau’r gymrodoriaeth, sef 1 Hydref 2024.
  • Bod â dim mwy na 12 mis o brofiad ôl-ddoethurol gweithredol. Mesurir hyn o ddyddiad pasio ‘viva voce’ yr ymgeisydd hyd at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, sef 16 Mai 2024.

Nid yw’r alwad ar agor i ymgeiswyr sy’n aelodau staff sefydledig, parhaol mewn swydd academaidd gydag elfen ymchwil.

Gweler y ddogfen Cwestiynau Cyffredin sy’n berthnasol i’r alwad hon am ragor o wybodaeth am gymhwysedd.

Sut i wneud cais

Fel y disgrifiwyd yn yr alwad, bydd angen i chi nodi mentor a fydd yn uwch gydweithiwr yn y sefydliad ymchwil, a Llwybr sy’n cynnal y Gymrodoriaeth.

Eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer nodi eich mentor ddylai fod cynullydd y llwybr sy’n cyd-fynd orau â’ch cynnig am Gymrodoriaeth. Gallwch weld rhestr o’r llwybrau a cynullwyr yma. Dylech gysylltu â chynullydd y llwybr perthnasol cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na 28 Mawrth 2024

Rydym yn disgwyl lefel uchel o gystadleuaeth ar gyfer y cymrodoriaethau hyn, ac mae’r broses ddethol yn cynnwys sawl cam.

Bydd eich cais yn cael ei asesu i ddechrau gan y Llwybr yr ydych wedi gwneud cais iddo. Caniateir i bob un o’n 15 Llwybr enwebu 1-2 gais i’w hystyried gan Grŵp Rheoli WGSSS. Gellir gwahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer am gyfweliad.

Dylech lenwi’r  ffurflen gais a’i chyflwyno gyda’r atodiadau gorfodol penodedig.  Gofynnir i ymgeiswyr hefyd lenwi ffurflen monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth WGSSS. Mae hyn yn cael ei dal yn gyfrinachol a’i chasglu ar gyfer adrodd ystadegau i’r ESRC yn unig.

Dylid cyflwyno ceisiadau i fellowships@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar 16 Mai 2024.

Atodiadau Hanfodol

Yn ogystal â’r ffurflen gais, rhaid i geisiadau gynnwys yr atodiadau 1-7 isod. Mae angen atodiadau 8-10 os yn berthnasol. Rhaid i bob atodiad fod o leiaf maint ffont 11.

Mae manylion llawn yr atodiadau gorfodol sydd eu hangen yn eich cais ar gael ym Manyleb Galwad PDF ESRC. 

  1. Achos dros gymorth (uchafswm o chwe ochr A4)
  2. Cyfiawnhad o’r adnoddau (uchafswm o ddwy ochr A4)
  3. CV (uchafswm o ddwy ochr A4)
  4. Datganiad y Pennaeth Adran (uchafswm o un ochr A4)
  5. Datganiad y mentor a chrynodeb o’r CV (uchafswm o ddwy ochr A4)
  6. Datganiad y canolwr (uchafswm o ddwy ochr A4)
  7. Cynllun gwaith (uchafswm o ddwy ochr A4)
  8. Cynllun rheoli data, gorfodol os bydd setiau data newydd (o unrhyw faint) yn cael eu cynhyrchu fel rhan o’r gymrodoriaeth (uchafswm o dair ochr A4)
  9. Rhestr o gyhoeddiadau, os yw’n berthnasol (yn cynnwys y llyfryddiaeth ar gyfer cyfeiriadau a nodir yn y cynnig)
  10. Atodiadau eraill, os yn berthnasol (manylir atodiadau derbyniol eraill yn y fanyleb galwad PDF)

Ni dderbynnir unrhyw atodiadau ychwanegol eraill, a gellir dychwelyd neu wrthod eich cynnig os byddwch yn cynnwys atodiadau nad ydynt yn cael eu caniatáu dan yr alwad hon, neu os bydd unrhyw un o’r atodiadau gorfodol ar goll.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Chynhwysiant 

Mae’r DTP yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth ryweddol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol 

Arweiniad Ychwanegol 

Mae gwefan yr ESRC yn cynnwys adnoddau ar baratoi cynigion ymchwil a gwybodaeth am foeseg, effaith ymchwil a datblygu prosiectau cydweithredol. 

Mae pecyn cymorth effaith yr ESRC hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer datblygu strategaethau effaith. 

Proffiliau Cymrodorion Ôl-ddoethurol 2023 – 2024 

Cymerwch olwg ar broffiliau ein cymrodyr ôl-ddoethuriaeth presennol.

Cysylltwch

Os oes gennych chi gwestiynau nad ydynt wedi eu hateb gan y cwestiynau cyffredin, cysylltwch â fellowships@walesdtp.ac.uk.