Cynhadledd WISERD

Mae cynadledau blynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn denu cydweithwyr o bob rhan o’r sectorau academaidd, polisi, sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector yng Nghymru; ac mae wedi ennill ei phlwyf fel cynhadledd gwyddorau cymdeithasol fwyaf Cymru.

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024 dros ddau ddiwrnod (Dydd Mercher y 3ydd a’r 4ydd o Orffennaf 2024) ym Prifysgol De Cymru, Treforest.

Rydym yn gweithio’n agos â’n cydweithwyr yn WISERD wrth gynllunio cynadleddau, sy’n cynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr doethurol gyflwyno papurau, rhoi cynnig ar gystadlaethau a phroffilio agweddau eraill ar eu gwaith mewn cyd-destun bywiog a chefnogol. Rydym hefyd fel arfer yn cyfrannu sesiwn hyfforddi.

Rydym yn annog holl fyfyrwyr YGGCC i fynd i’r digwyddiad blynyddol pwysig hwn.

Thema cynhadledd eleni yw ‘Anelu at gymdeithas decach’.

Sut olwg fyddai ar gymdeithas decach? Sut gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r mecanweithiau sy’n arwain at anghydraddoldebau hirdymor a pharhaus? Sut gallwn ni gyfrannu at bolisïau sy’n cael effaith a all sicrhau cymdeithas decach a mwy cynhwysol?

Bydd cynhadledd WISERD 2024 yn rhoi sylw i’r materion hyn yng nghyd-destun nifer o feysydd sydd â goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer, gan gynnwys:

  • Dinasyddiaeth, hawliau a haenu dinesig
  • Peiriannau ac AI mewn byd anghyfartal
  • Cyfiawnder hinsawdd a pholisïau seiliedig ar leoedd
  • Iaith, hunaniaeth a chynhwysiant
  • Dulliau eraill o fesur tlodi ac anghydraddoldeb
  • Data a dadansoddiad ar gyfer cymdeithas decach
  • Deilliannau addysgol a thrawsnewid cwrs bywyd
  • Gwaith, amodau byw a chyfiawnder cymdeithasol
  • Rhagarddangos systemau cymdeithasol ac economaidd eraill
  • Daearyddiaeth anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
  • Trosedd, cyfiawnder troseddol a chynhwysiant cymdeithasol

Y galwad am bapurau nawr AR GAU ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024.

CYFNOD ARCHEBU AR AGOR! Mae tocynnau cynnig cynnar ar gael tan 1 Mai 2024.