Dyddiad Cau: Dydd Gwener 5 Awst 2022
Mae DTP Cymru yn falch o gynnig tri cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, i weithio ar brosiectau penodol ar ystod o bynciau gan gynnwys Addysg a Sero Net.
Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a gyllidir gan DTP ESRC Cymru (heblaw am y rheiny sydd ymhen tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod fel myfyriwr). Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n cael eu cynnal o bell, gan ddechrau yn yr Hydref 2022, am gyfnod o 3-6 mis amser llawn neu gyfnod cyfatebol yn rhan-amser. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad at eu PhD cyfwerth â hyd yr interniaeth.
Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd i greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle i feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu i ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.
Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:
- Synthesis o dystiolaeth sy’n bodoli eisoes i lywio meddwl mewn polisi addysg ac ieuenctid
- Ymchwil a dadansoddi i lywio sylfaen dystiolaeth Pontio Teg i Sero Net Cymru
- Gwaith Cwmpasu ar Gyfer Gwerthusiad y Rhaglen Cymoedd Technoleg
Llenwch y ffurflen gais a’i hanfon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 12:00 ar y dyddiad cau