10:30 y.b. - 11:45 y.b., Dydd Mawrth 6 Medi 2022
Dydd Mawrth 6 Medi 2023, 10:30am-11:45am
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cydweithio â sefydliad allanol ar brosiect ymchwil i’w gynnal gan fyfyriwr PhD a ariennir yn llawn? Mae DTP Cymru yn cynnal sesiwn wybodaeth am fanteision ysgoloriaethau cydweithredol a sut i gyflwyno cais am ddyfarniad cydweithredol ar 6 Medi 2023, 10:30am-11:30am.
Gall cais am ddyfarniad cydweithredol fod yn seiliedig ar bartneriaeth sydd eisoes ar waith gyda sefydliad anacademaidd neu bartneriaeth newydd sy’n ennill ei phlwyf. Mae ystod o sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn gweithio gyda DTP Cymru i gynnig cymorth ariannol neu mewn nwyddau (ac weithiau’r ddau) ar gyfer hyfforddiant ymchwil, mewn trefniant sydd wedi ei gynllunio i fod yn fuddiol i’r naill ochr. Mae ein partneriaethau rhwng sefydliadau nad ydynt yn sefydliadau addysg uwch a sefydliadau consortiwm AU yn helpu i gyflawni ein hamcan i ddatblygu mecanweithiau cadarn ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a throsglwyddo gwybodaeth. Mae hyn yn rhoi rôl ganolog i sefydliadau anacademaidd mewn prosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol gan helpu i gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw.
Yn ystod y sesiwn wybodaeth hon sy’n awr o hyd, byddwch yn clywed gan ystod o sefydliadau partner ac ymchwilwyr doethurol am sut mae dyfarniadau cydweithredol yn eu galluogi i gyflawni eu nodau. Byddwch yn clywed gan Ddirprwy Gyfarwyddwr DTP Cymru, Dr Caroline Jones, hefyd am sut i gyflwyno cais am ddyfarniad cydweithredol, a sut caiff y ceisiadau eu hystyried.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, ewch i Eventbrite ESRC Wales DTP Collaborative Awards Tickets, Tue 6 Sep 2022 at 10:30 | Eventbrite