Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2022 — Lansiad yr Ŵyl

Dyddiad Cau: Dydd Sadwrn 22 Hydref 2022 - Dydd Sul 13 Tachwedd 2022

#ESRCFestival Dydd Sadwrn 22 Hydref — dydd Sul 13 Tachwedd

www.festivalofsocialscience.com

Rhwng 22 Hydref a 13 Tachwedd , bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal ei Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol flynyddol mewn partneriaeth â’r ESRC. Mae’r Ŵyl yn rhoi cyfle i ddathlu a chodi proffil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd drwy ymgysylltu â chynulleidfaoedd cyhoeddus ac ifanc. Thema’r Ŵyl eleni yw ‘Fy Ardal Leol’, a byddwn yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor yn ein cyflwyniad.

Bydd yr Ŵyl yn agor â lansiad, a gynhelir yn adeilad SPARK ar ddyddiad rhwng 24-28 Hydref. Bydd hwn yn gyfle i arddangos digwyddiadau’r Ŵyl i aelodau’r gymuned leol a phartïon eraill sydd â diddordeb yn y Brifysgol, y cyfryngau a gwleidyddiaeth leol. Hoffem ni i’r lansiad fod mor rhyngweithiol a diddorol â phosibl, ac felly hoffem ni wahodd y rhai sydd ag ysgoloriaeth DTP ESRC i gynnal gweithgareddau yn y digwyddiad. Os hoffech gael y cyfle i rannu eich ymchwil â chynulleidfaoedd cyhoeddus ac ifanc lleol, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallai’r gweithgareddau gynnwys: gemau, crefftau, mapio cymunedol, cwisiau, ac unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano sy’n ddiddorol ac yn arloesol! Os oes gennych syniad, ond yn ansicr sut yn union i’w droi’n weithgaredd, cysylltwch â esrciaa@caerdydd.ac.uk. Byddwn yn hapus i drafod a datblygu eich syniadau gyda chi.

Ydych chi’n barod am gryn ymgysylltiad cyhoeddus?

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol gan fyfyrwyr PhD. Os yw eich syniad yn fwy na gweithgaredd ar gyfer lansiad, gallech ystyried gwneud cais i gynnal digwyddiad drwy weddill yr ŵyl. Mae’r thema eleni, ‘Fy Ardal Leol’, yn dathlu unrhyw a phob agwedd ar ymchwil gwyddorau cymdeithasol sy’n ymwneud ag ardaloedd ein sefydliadau a Chymru’n ehangach: e.e. hanes cymdeithasol ac economaidd, tafodieithoedd, tirweddau gwleidyddol, busnesau lleol ac arloeswyr, dyfodol y stryd fawr leol neu wasanaethau cyhoeddus. (Sylwer: nid oes angen i bob digwyddiad ymwneud â’r thema hon ac felly byddem hefyd yn croesawu ceisiadau ar gyfer digwyddiadau diddorol ac arloesol eraill.)  Rydym yn annog cydweithwyr sydd â phartneriaethau presennol neu flaenorol â phrifysgolion eraill yng Nghymru i gyd-arwain sesiynau gyda’r partneriaid hynny i wneud hwn yn ddigwyddiad Cymru gyfan go iawn. Cynhelir pob digwyddiad yng Nghaerdydd a Bangor (h.y. bydd disgwyl i ddigwyddiadau Caerdydd ailadrodd eu digwyddiadau ym Mangor; gall cyllidebau’r ŵyl dalu am deithio a chynhaliaeth). Bydd angen i fyfyrwyr PhD wneud cais â chefnogaeth goruchwyliwr (neu gymhwyster cyfatebol), oherwydd y ffordd y dyrennir cyllid. Am ragor o wybodaeth neu i ofyn am gopi o’r ffurflen gais a’r canllawiau, cysylltwch â Thîm IAA ESRC (esrciaa@caerdydd.ac.uk).