Gyrfaoedd i Ymchwilwyr Ôl-raddedig: Bywyd y Tu Hwnt i’r Byd Academaidd

1:00 y.p. - 2:15 y.p., Dydd Iau 30 Mehefin 2022

Mae’r sesiwn fyw ar-lein hon yn edrych ar y mathau o yrfaoedd sydd ar gael i ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol ar ôl astudio ar gyfer eu PhD.  Er bod llawer o fyfyrwyr PhD yn dewis gyrfa ym maes addysg uwch, mae digon o opsiynau eraill ar gael ar gyfer gwneud ymchwil y tu allan i’r byd academaidd.  Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn clywed gan gynfyfyrwyr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC yn sôn am eu gyrfa a’r sgiliau ymchwil a’u helpodd i gyrraedd lle maent heddiw.  Byddwch hefyd yn clywed gan Gynghorydd Gyrfaoedd yn sôn am opsiynau i’w hystyried ym maes y gwyddorau cymdeithasol y tu hwnt i’r byd academaidd.  Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r panel, wedi’i ddilyn gan sesiwn bwrpasol sy’n rhoi’r cyfle i drafod eich anghenion hyfforddi gyrfaol a chymorth gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob myfyriwr sy’n cael ei ariannu gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru.

Cofrestrwch drwy Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/careers-for-pgrs-life-beyond-academia-tickets-348848062947