Interniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd – Dyddiad olaf: 9fed Medi 2022 (hanner dydd)

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 9 Medi 2022

Hoffai Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru gynnig cyfle i fod yn intern am dri mis yn y Ganolfan dros Newid Hinsoddol a Thrawsffurfio Cymdeithasol.  Bydd yr intern yn ymwneud â Thema 1 (pennu delfryd) sy’n ystyried y mathau delfrydol o gymdeithas isel ei charbon a/neu Thema 3 (arbrofi) sy’n anelu at lunio a chyflwyno ffyrdd o gwtogi ar allyriadau a hwyluso manteision amgylcheddol ehangach ar y cyd â phartneriaid megis Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd ac Anglian Water.  Dyma ddisgrifiad o’r prosiect: https://cast.ac.uk/research-themes

Mae’r cyfle hwn ar gael i fyfyrwyr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru o dan nawdd Cyngor yr Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ac eithrio’r rhai mae’u cwrs wedi dechrau yn y tri mis diwethaf neu’n dod i ben ymhen tri mis).  Mae disgwyl y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o hirbell weithiau ac yn y swyddfa weithiau, a bydd y trefniadau’n hyblyg yn ôl anghenion y myfyriwr.  Mae tîm y ganolfan yn gweithio yn adeilad newydd SBARC, Caerdydd.  Bydd yr interniaeth yn dechrau yn hydref 2022 am 3 mis (amser llawn neu oriau rhan-amser cyfatebol).  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn parhau i dderbyn ei dâl yn ystod yr interniaeth, ac estynnir cwrs ei ddoethuriaeth o dri mis ychwanegol (sef, cyfnod yr interniaeth).

Mae croeso i fyfyrwyr o bob cefndir ymgeisio, gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser.

Rhaid cyflwyno ffurflen gais application formi Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru (enquiries@walesdtp.ac.uk) erbyn canol dydd ar y dyddiad sydd wedi’i nodi uchod.

CAST DTP internship description