Dyddiad Cau: Dydd Gwener 24 Chwefror 2023
Mae PHD Cymru yn falch o gynnig naw cyfle interniaeth gyda Llywodraeth Cymru, ar gyfer gweithio ar brosiectau penodol sy’n ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys cyflogadwyedd a sgiliau, amrywiaeth mewn cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru a lles a’r amgylchedd hanesyddol.
Mae’r interniaethau hyn ar gael i unrhyw fyfyriwr a ariennir gan PHD ESRC Cymru (heblaw am y rheiny sydd o fewn tri mis cyntaf neu olaf eu cyfnod o fod yn fyfyriwr). Rhagwelir y bydd yr interniaethau’n cael eu cynnal o bell gan ddechrau yng ngwanwyn 2023 am gyfnod o 3-6 mis yn amser llawn neu am gyfnod cyfatebol yn rhan-amser. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael estyniad cyfwerth â hyd yr interniaeth ar gyfer eu PhD.
Bydd yr interniaethau hyn yn cynnig cyfleoedd I greu effaith drwy gyfrannu at waith y llywodraeth, y cyfle I feithrin perthnasau y tu hwnt i’r byd academaidd, yn ogystal â’r gallu I ddatblygu sgiliau ymchwil mewn amgylchedd polisi.
Mae disgrifiadau llawn o’r prosiect ar gael yn y dogfennau atodedig:
Llenwch y ffurflen glais a’I hafnon at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4yp ar y dyddiad cau.
Disgrifiadau Interniaeth
Adolygu agweddau’r cyhoedd at y dreth gyngor yng Nghymru
Cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau
Lles a’r Amgylchedd Hanesyddol
Sut mae Cytundebau Masnach Rydd yn effeithio ar allu’r DU a Chymru i reoleiddio?
Dadansoddi data masnach ryngwladol
Asesiad o Werth Cytundebau Masnach Rydd i Gymru
Ymchwil i’r galw a’r cyflenwi presennol am wasanaethau cyngor ar fewnfudo yng Nghymru
Synthesis o dystiolaeth sy’n bodoli eisoes i lywio meddwl mewn polisi addysg ac ieuenctid
Ymchwil ar amrywiaeth yng nghyrff sector cyhoeddus yng Nghymru