Ymateb i COVID19

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (PHD) ESRC Cymru yn gweithio i gefnogi ein cymuned o ymchwilwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Gwyddom fod pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau cysylltiedig yn rhoi baich mawr ar lawer, ac yn gwneud i bawb bryderu ac ofni. Rydym wedi paratoi’r rhestr ganlynol o gwestiynau cyffredin ac atebion er mwyn rhoi ychydig o arweiniad ar rai o oblygiadau COVID-19 ar eich ysgoloriaeth ymchwil neu Gymrodoriaeth sy’n cael ei hariannu gan ESRC.

Rydym yn parhau i astudio’r sefyllfa sy’n datblygu ac i gymryd cyngor gan ein 6 sefydliad partner, yr ESRC ac awdurdodau iechyd y cyhoedd.  Rydym yn cynghori holl fyfyrwyr PHD Cymru i gadw mewn cysylltiad â’u cyfarwyddwyr ac i drafod unrhyw rwystrau sydd i’r ymchwil â nhw yn y lle cyntaf, ac i ddilyn unrhyw ganllawiau sy’n cael eu rhoi gan eu sefydliadau eu hunain fel blaenoriaeth.  Mae UKRI wedi cyhoeddi ychydig o ganllawiau ar eu gwefan hefyd. Mae’r canllawiau’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ac efallai y byddant hefyd yn ateb unrhyw bryderon a all fod gennych.

Ar 9 Ebrill, cyhoeddodd UKRI bod myfyrwyr doethurol yn eu blwyddyn olaf o gyllid sydd wedi cael eu heffeithio gan bandemig COVID-19 yn cael estyniad o hyd at 6 mis i’w gwaith ymchwil.  Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr y mae eu cyllid yn dod i ben rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021.  Ewch i wefan UKRI i gael rhagor o wybodaeth.  Mae DTP Cymru ar hyn o bryd yn gweithio’n galed i weithredu’r canllawiau diweddaraf a gyflwynwyd ar 24 Ebrill, a byddant yn cysylltu â myfyrwyr cymwys pan fydd y broses ymgeisio am estyniadau ar agor.

O ystyried bod y sefyllfa’n newid yn gyflym, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n barhaus.

Teithio

Yn dilyn canllawiau ESRC, nid yw PHD Cymru yn cael ariannu unrhyw deithio i wledydd y mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynghori na ddylid ymweld â nhw.

O 16 Mawrth ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi cynghori yn erbyn unrhyw deithio nad yw’n hanfodol.  Mae’r ESRC wedi cynghori bod teithio sy’n gysylltiedig ag ymchwil yn ‘deithio nad yw’n hanfodol’. Os ydych chi’n teithio dramor ar hyn o bryd ond yn byw yn y DU, mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad wedi cynghori’n gryf y dylech ddychwelyd yn syth.  Cyfeiriwch at y canllawiau a gyhoeddwyd gan eich sefydliad ynghylch trefniadau teithio’n ôl i’r DU.

Mae fy Ymweliad â Sefydliad Tramor wedi’i dorri’n fyr neu wedi’i ohirio o ganlyniad i COVID-19

Os ydych wedi dychwelyd yn gynnar o’ch ymweliad o ganlyniad i COVID-19, bydd PHD Cymru yn caniatáu i chi ymweld eto yn y dyfodol. Yn ddibynnol ar gyngor teithio’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a chanllawiau’r sefydliad sy’n lletya, cewch ganiatâd i ymweld â’r un Brifysgol/sefydliad sy’n lletya ar yr amod ei bod hi’n bosibl gwneud hyn o fewn y terfyn arian y cytunwyd arno yn barod ar gyfer eich Ymweliadau â Sefydliadau Tramor.   Os nad yw hyn yn bosibl, bydd angen i ni asesu pob achos yn unigol er mwyn gweld a yw’n bosibl cynnig rhagor o gymorth. Rhaid eich bod chi o fewn y cyfnod dyfarnu sy’n cael ei ariannu pan fyddwch yn mynd ar ymweliad. O ganlyniad i’r amgylchiadau presennol, bydd y ESRC fel eithriad yn caniatáu i geisiadau am Ymweliadau â Sefydliadau Tramor gael eu gwneud yn ystod tri mis olaf yr ariannu lle mae’n amlwg yn fanteisiol i hynny ddigwydd.

Os ydych chi wedi gorfod gohirio Ymweliad â Sefydliad Tramor o ganlyniad i COVID-19, gall hwn gael ei aildrefnu yn ddibynnol ar y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a chanllawiau’r sefydliad sy’n lletya. Rhaid i’r ymweliad a aildrefnir gael ei wneud yn ystod y cyfnod dyfarnu sy’n cael ei ariannu.

Sicrhewch eich bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch sefydliad a PHD Cymru am eich sefyllfa ac unrhyw gynlluniau i aildrefnu.

Mae fy Ngwaith Maes Tramor wedi’i dorri’n fyr neu wedi’i ganslo o ganlyniad i COVID-19

Os ydych wedi dychwelyd o’ch gwaith maes yn gynharach na’r cynllun gwreiddiol o ganlyniad i COVID-19, byddem yn disgwyl eich bod chi, ar y cyd â’ch cyfarwyddwr, yn gwneud arolwg o’r data rydych wedi’u casglu’n barod er mwyn gweld a oes rhaid gwneud ail ymweliad neu a yw’n bosibl addasu paramedrau’r ymchwil i gyd-fynd â’r data sydd ar gael.

Os yw eich gwaith maes wedi’i ganslo o ganlyniad i COVID-19, byddem yn awgrymu eich bod yn gwneud adolygiad o’ch cynllun ymchwil gyda’ch cyfarwyddwr. Gan ei bod hi’n bosibl y bydd tarfu ar deithio am gyfnod arwyddocaol, y peth doethaf fyddai gweld a fyddai hi’n bosibl gwneud addasiadau neu newidiadau er mwyn gorffen eich doethuriaeth heb waith maes tramor.  Bydd yr ESRC yn caniatáu ailaddasiadau os yw’r effaith mor fawr nad yw project myfyriwr yn ymarferol bosibl bellach.

Os penderfynir bod gwaith maes tramor yn hanfodol er mwyn cwblhau’r ddoethuriaeth, mae’n bosibl y caiff hyn ei aildrefnu yn ystod cyfnod y dyfarniad sy’n cael ei ariannu, yn ddibynnol ar ganllawiau’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r sefydliad sy’n lletya.  Gellir defnyddio unrhyw arian gwaith maes tramor y cytunwyd arno yn flaenorol gan PHD Cymru o hyd.

Gwneud gwaith maes neu Hyfforddiant Iaith Anodd yn y DU

Os oes rhaid teithio yn y DU ar gyfer eich gwaith maes neu Hyfforddiant Iaith Anodd, rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn datblygu cynllun wrth gefn rhag ofn y bydd y cyfyngiadau teithio’n parhau am gyfnod hwy na’r disgwyl.

Ceisiadau newydd am Ymweliadau â Sefydliadau Tramor, Gwaith Maes Tramor a Hyfforddiant Iaith Anodd

Mae PHD Cymru wedi gohirio broses ymgeisio ar gyfer gwaith maes tramor ac ymweliadau â sefydliadau tramor a hyfforddiant iaith anodd am gyfnod amhenodol. Ni allwn ystyried unrhyw geisiadau newydd.  Bydd y polisi hwn yn parhau o dan adolygiad.  Fodd bynnag efallai y bydd cyfnod o amser cyn y bydd hi’n bosibl derbyn ceisiadau am Waith Maes Tramor ac Ymweliadau â Sefydliadau Tramor ac rydym yn eich cynghori’n gryf i ddatblygu cynllun wrth gefn.

A gaf i estyniad wedi’i ariannu gan fod COVID-19 wedi tanseilio fy ngallu i gwblhau fy Noethuriaeth?

Efallai bydd gallu myfyrwyr i orffen eu doethuriaeth o fewn y cyfnod sy’n cael ei ariannu, er enghraifft, yn cael ei effeithio oherwydd eu bod yn methu teithio, cwblhau gweithgareddau casglu data neu oherwydd eu bod yn gorfod darparu gofal plant neu gyfrifoldebau gofal eraill.  Efallai hefyd y bydd yn cael ei effeithio gan ohirio gweithgareddau allweddol lle nad oes dewisiadau eraill ar gael neu gan gyfnod arwyddocaol o ymneilltuo (yn gyfrannol â’r amser sydd ar ôl yn y cyfnod sy’n cael ei ariannu).  Mae’r broses o gyflwyno cais am estyniad yn dibynnu ar ddyddiad gorffen presennol y cyllid ar gyfer eich ysgoloriaeth (gan gynnwys unrhyw ataliadau/estyniadau blaenorol sydd wedi symud dyddiad gorffen gwreiddiol eich ysgoloriaeth). Os nad ydych yn siŵr o ddyddiad gorffen y cyllid ar gyfer eich ysgoloriaeth, cysylltwch â Gweinyddwr Myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil eich ysgol/adran.

Gall myfyrwyr y mae dyddiad gorffen y cyllid ar gyfer eu hysgoloriaeth rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021 ac y mae eu gwaith wedi’i effeithio gan bandemig COVID-19, gyflwyno cais am estyniad o hyd at 6 mis. Rydym wedi ebostio manylion ynghylch cyflwyno ceisiadau at yr holl fyfyrwyr ac mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn 9am ar 26 Mai 2020.

Gofynnir i fyfyrwyr y daw eu cyllid i ben ar 1 Ebrill 2021 gwblhau arolwg i ganfod sut rydych wedi’ch effeithio ac amcangyfrif yr amser ychwanegol sydd ei angen i gwblhau gwaith doethurol. Nid yw hyn yn eich ymrwymo i gyflwyno cais am estyniad, ond rydym yn argymell eich bod yn cadw cofnod o unrhyw effaith yr ydych yn teimlo bod COVID-19 yn ei chael ar eich cynnydd. Rhoddir gwybodaeth bellach am estyniadau i chi cyn gynted ag y bydd ar gael.

Estyniadau y tu hwnt i’r cyfnod dyfarnu sy’n cael ei ariannu

Mewn amgylchiad lle mae myfyrwyr y tu hwnt i’r cyfnod dyfarnu sy’n cael ei ariannu ac yn gweld eu bod yn methu cwblhau tasgau hanfodol er mwyn bod yn barod i gyflwyno eu traethawd hir, er enghraifft oherwydd bod adrannau neu sefydliadau wedi’u cau, mae UKRI wedi argymell bod sefydliadau sy’n lletya yn caniatáu estyniadau i’r dyddiadau cyflwyno.  Felly ceisiwch gyngor gan eich sefydliad.  Ni fydd unrhyw sancsiynau sefydliadol yn cael eu rhoi o ganlyniad i estyniadau COVID-19.

Canslo cynhadledd/digwyddiad hyfforddi yn y DU/Dramor o ganlyniad i COVID-19

Dylech geisio cyngor gan eich sefydliad.  Efallai y bydd hi’n bosibl cael ad-daliad am gostau cysylltiedig gan drefnwyr y digwyddiad a/neu eich darparwr yswiriant teithio.

Mewn rhai achosion, efallai bydd gweithgaredd a gynlluniwyd (fel cynhadledd neu gwrs hyfforddiant) yn cael ei ohirio tan ar ôl dyddiad diwedd y dyfarniad. O 18 Mawrth ymlaen, mae UKRI wedi dweud y byddan nhw’n caniatáu estyniad di-gost (no-cost) (heb ei ariannu) fel bod modd mynychu. At hynny, fel eithriad, bydd hi’n bosibl hawlio’r gost o fynychu’r digwyddiad yn y ffordd arferol o RTSG myfyriwr.

Ceisiadau am estyniadau i Gymrodoriaethau Ôl-Ddoethurol sy’n ymwneud â chynadleddau a aildrefnir o ganlyniad i COVID-19

Er na chaniateir gwario arian ar ôl cyfnod y grant, gall Cymrodorion wneud cais am estyniadau di-gost i’w dyfarniadau os oes cynhadledd neu ddigwyddiad na chynhelir yn ystod y cyfnod ariannu bellach.  Gall Cymrodor Ôl-Ddoethurol wneud cais am estyniad di-gost drwy Je-S. Mae gwefan UKRI yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Rwy’n gwneud interniaeth ar hyn o bryd ac mae wedi cael ei gohirio oherwydd bod y sefydliad sy’n lletya wedi’i gau dros dro

Byddai angen i interniaeth a aildrefnir gael ei gwneud yn ystod y cyfnod dyfarnu sy’n cael ei ariannu.   O ganlyniad i’r amgylchiadau ar hyn o bryd, bydd y ERSC fel eithriad yn caniatáu i interniaethau gael eu gwneud yn ystod tri mis olaf yr ariannu.

Defnyddio’r Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil: costau gweithio gartref

O ystyried yr amgylchiadau eithriadol a’r gofyniad am weithio gartref am gyfnod estynedig oherwydd COVID-19, mae’n bosibl bydd costau ychwanegol ar ymchwilwyr PhD, megis prynu llyfrau hanfodol. Mae’n bosibl bydd disgwyl i Grantiau Cymorth Hyfforddiant Ymchwil (RTSG) myfyriwr dalu am y rhain.  Gellir hefyd ddisgwyl i RTSG dalu am wariant ar offer i alluogi cymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio o bell, cynadleddau neu ddigwyddiadau academaidd sy’n rhithwir yn lle wyneb yn wyneb.  Ni ddylai cyfanswm prynu cyfarpar fod yn fwy na £500 a dylent fod ar gyfer gwaith swyddfa. Ni ellir talu’r costau am offer a fyddai fel rheol yn cael eu darparu gan y Brifysgol letyol (e.e. cyfrifiadur). Ni fyddai disgwyl prynu offer cyfrifiadurol pŵer uchel at ddibenion ymchwil.  Dim ond pan nad oes offer ar gael y gellir ei ddefnyddio i brynu offer (h.y. monitor myfyriwr ei hun).  Byddai unrhyw offer a brynir dros £200 fel arfer yn aros yng ngofal yr ysgol/adran letyol ar ôl cwblhau dyfarniad myfyriwr.  Gan yr ystyrir band eang yn wasanaeth, efallai na fydd costau darparu band eang neu ei wella yn cael eu talu gan y RTSG. Nid yw’n bosibl defnyddio’r RTSG i brynu dodrefn swyddfa fel desgiau neu gadeiriau.  Cynghorir myfyrwyr i gyfeirio at ganllawiau’r sefydliad os oes angen dodrefn swyddfa arnoch.

Ni ellir cynyddu’r RTSG a rhaid cynnwys unrhyw wariant o fewn y lwfans presennol.

Dylid gofyn am y costau sy’n ymwneud yn benodol â hwyluso astudiaethau’r rheini ag anabledd trwy’r cynllun Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Byddem yn annog myfyrwyr sydd wedi newid neu sydd ag anghenion newydd o ganlyniad i’r ymateb i’r pandemig i gysylltu â’r Cynghorydd Anabledd neu’r person cyswllt ar faterion anabledd yn eu sefydliad lletyol.

Grantiau Bach PHD a digwyddiadau Datblygu’r Garfan

Dylai gweithgareddau y mae grantiau bychain a grantiau datblygu carfannau PHD yn eu hariannu ddilyn canllawiau cyfredol y sefydliadau sy’n eu cynnal.  Y cyngor cyfredol yw y dylai’r rhai sy’n trefnu digwyddiadau ystyried opsiynau rhithwir neu ohirio digwyddiadau os nad yw hynny’n bosibl.  Petai angen gael cyngor arnoch ynghylch sut mae mynd ati i gynnal digwyddiadau’n rhithwir, cysylltwch â swyddfa PHD (enquiries@walesdtp.ac.uk).

Salwch

Yn dilyn Canllaw Ariannu Ôl-Raddedigion ESRC, gall myfyriwr barhau i dderbyn ei ysgoloriaeth am hyd at 13 wythnos o salwch o fewn cyfnod o 12 mis.  Os ydych chi’n mynd yn sâl, rhowch wybod i’ch sefydliad. Caiff ysgoloriaethau eu hestyn i gynnwys y cyfnod absenoldeb, hyd at 13 wythnos. Mae’n bosibl y bydd y rhai sydd wedi defnyddio eu 13 wythnos o dâl salwch am y flwyddyn academaidd gyfredol am resymau eraill, yn dal i fod yn gymwys i gael rhagor o gymorth o ganlyniad i COVID-19. Mae UKRI yn gweithio i ganllawiau’r Llywodraeth o ran ardystio meddygol.  Ceisiwch gyngor gan eich sefydliad ynghylch tystysgrifau meddygol.

Lle nad yw myfyrwyr yn sâl, ond yn hunanynysu, ni ddylai ysgoloriaeth gael ei gohirio. Mewn llawer o achosion, bydd myfyrwyr yn gallu gweithio o gartref hyd yn oed os yw’r gweithgareddau a wneir yn newid. Er mwyn parhau i gael eich cyfarwyddo, byddem yn disgwyl i chi gyfathrebu â’ch cyfarwyddwr drwy e-bost/galwad ffôn/galwad fideo. Os ydych chi mewn sefyllfa lle mae rhaid hunanynysu, rhowch wybod i’ch sefydliad yn unol â hyn. 

Cadw mewn cysylltiad

Rydym yn gwerthfawrogi adborth, cyngor a gwybodaeth gan ein cymuned o ymchwilwyr. Rydym yn eich annog i’n dilyn ni ar Twitter (@WalesDTP) a Facebook, i gysylltu â chynrychiolydd Myfyrwyr PHD yn eich sefydliad, neu i gysylltu â ni drwy ebost ar enquiries@walesdtp.ac.uk.