Manylion llwybrau

Mewn gwledydd fel y Deyrnas Unedig, mae sefydliadau, prosesau a chanlyniadau addysgol yn effeithio ar bawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac yn aml ar lefel ddofn iawn. Mae’r cysylltiadau rhwng polisi a darpariaeth addysgol ac iechyd y gymdeithas, diwylliant ac economi yn amlwg o’r pwys mwyaf. Mae Addysg yn ddisgyblaeth academaidd, gyda’i chymuned academaidd ei hun a thrafodaeth a phryderon unigryw, a hefyd yn bwnc neu faes astudio, sy’n cyfuno amrywiaeth o ddamcaniaethau a dulliau Gwyddorau Cymdeithasol ar faterion fel dysgu, cwricwlwm, asesu, addysgeg, llywodraethu, rheoli, arweinyddiaeth, polisïau ac ati. Mae ymchwil addysgol yng Nghaerdydd yn cynnig dadansoddiadau trwyadl o brosesau addysgol a’u cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd, gan wneud cyfraniad pwysig at bolisi, arfer, dadl a dealltwriaeth gyfoes.

Mae arbenigedd ymchwil yn cynnwys cryfderau penodol mewn

  • addysg bellach ac addysg uwch,
  • dadansoddi a gwerthuso polisi,
  • cynhwysiant,
  • addysg plentyndod cynnar,
  • plant a phobl ifanc yn yr ysgol,
  • y farchnad lafur a sgiliau,
  • addysg oedolion ac addysg yn y gweithle,
  • addysg feddygol a
  • dysgu a gyfoethogir gan dechnoleg.

Mae’r llwybr wedi ei leoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae myfyrwyr ymchwil yn rhan o ddiwylliant ymchwil bywiog. Mae gan yr Ysgol enw da iawn am gyhoeddiadau rhyngwladol wedi eu hadolygu gan gymheiriaid; mae’n gartref i sawl cyfnodolyn gwyddonol cymdeithasol amlddisgyblaethol ac sy’n canolbwyntio ar ddulliau. Mae myfyrwyr ar y llwybr addysg yn ymgysylltu nid yn unig ag eraill sydd ar drywydd PhD mewn Addysg (cyfanswm o tua 60) ond hefyd yn datblygu rhwydweithiau mwy cyffredinol ar draws yr Ysgol gyda staff a myfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae’r cyfleoedd i wneud hynny’n cael eu meithrin drwy nifer o seminarau, gweithdai a digwyddiadau sy’n dod â staff a myfyrwyr ynghyd, dan ofal Grŵp Ymchwil Addysg yr Ysgol a’r chwe chanolfan ymchwil rhyngddisgyblaethol y mae eu gwaith yn cynnwys ymchwil addysgol.

Mae’r ysgol yn cefnogi ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i’r garfan ddoethurol, gan gynnwys cinio blynyddol ymchwil ôl-raddedig (digwyddiad cymdeithasol a dathliad o gyflawniadau doethurol); cynhadledd flynyddol myfyrwyr doethurol (gan gynnwys sesiynau papur a cystadleuaeth posteri); y caffi ôl-raddedig sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr, a grwpiau darllen amrywiol sy’n cyfarfod unwaith y mis i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n gysylltiedig ag ymchwil cymdeithasol, gwleidyddiaeth a diwylliant.

Mae myfyrwyr ar y llwybr ‘1+3’ yn cwblhau’r modiwl arbenigol ‘Dadleuon ym maes Ymchwil Addysgol’ fel rhan o’r rhaglen Meistr ryngddisgyblaethol ar Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, tra’n datblygu ehangder o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau. Mae hyfforddiant pwnc-benodol a datblygu myfyrwyr yn parhau drwy gydol y ddoethuriaeth gydag amrywiaeth eang o grwpiau trafod a darllen, sesiynau o gwmpas y bwrdd, cyfres seminar a gweithdai dadansoddi data.

Proffiliau myfyrwyr